Bydd dau o fawrion rygbi’r gynghrair yng Nghymru yn cael eu derbyn i’r Oriel Enwogion newydd yn ystod cinio arbennig yn y gogledd nos Lun.
Billy Boston a Gus Risman yw’r ddau enw cyntaf yn yr Oriel Enwogion, sy’n cael ei lansio’n swyddogol yn Ewlo.
Mae’r ddau eisoes yn Oriel Enwogion yr RFL yn Lloegr, ac mae eu henwau wedi’u cerfio y tu allan i Wembley.
Mae disgwyl i Billy Boston fod yn bresennol yn y cinio, ynghyd â John Risman, mab Gus.
Bydd tîm Cymru hefyd yn derbyn medalau ar y noson yn dilyn eu llwyddiant wrth ennill Pencampwriaeth Ewrop y llynedd.
Billy Boston
Cafodd Billy Boston ei eni yng Nghaerdydd yn 1934, ac fe chwaraeodd rygbi’r undeb dros Glwb Athletau Rhyngwladol Caerdydd, Pontypridd a Chastell-nedd.
Symudodd i Wigan at rygbi’r gynghrair yn 1953 gan sgorio cais yn ei gêm gyntaf.
Treuliodd 15 tymor yn Wigan, gan symud i Blackpool yn 1968 ar ôl sgorio 478 o geisiau.
Cynrychiolodd Boston dîm Prydain 31 o weithiau, gan sgorio 24 o geisiau.
Yn ystod taith y Llewod i Awstralia a Seland Newydd, torrodd Boston record drwy sgorio 36 o geisiau mewn 18 o gemau.
Sgoriodd e 22 o geisiau ar y daith nesaf yn 1962 hefyd.
Yn ystod ei yrfa, sgoriodd Boston 571 o geisiau, yr ail nifer fwyaf erioed y tu ôl i Brian Bevan, ac mae’n un o lai na 25 o Gymry sydd wedi sgorio mwy na 1,000 o bwyntiau yn ystod ei yrfa.
Mae e eisoes yn aelod o Oriel Enwogion Wigan, yr RFL ac Oriel Enwogion Chwaraeon Cymru.
Er hynny, chafodd e mo’r cyfle i gynrychioli Cymru yn ystod ei yrfa, gan iddo gael ei anafu ddwy waith ar ôl cael ei ddewis yn y garfan.
Gus Risman
Cafodd Gus Risman ei eni yng Nghaerdydd yn 1911.
Enillodd e 18 o gapiau dros Gymru, gan sgorio pum cais a chwe gôl.
Cynrychiolodd dîm Prydain 17 o weithiau, ac roedd yn gapten ar y tîm ar daith i Awstralia yn 1946.
Er mai fel chwaraewr rygbi’r undeb y dechreuodd ei yrfa tra roedd e yn yr ysgol, fe gafodd ei ddenu i ogledd Lloegr gan Salford.
Yn ystod ei yrfa, fe sgoriodd 143 o geisiau a 789 o goliau mewn 427 o gemau.
Ar ôl gadael Salford, fe chwaraeodd e dros Workington 301 o weithiau gan sgorio 33 o geisiau a 716 o goliau.
Yn ystod ei yrfa, fe chwaraeodd e mewn 828 o gemau, gan sgorio 203 o geisiau a 1623 o goliau.
Bu farw yn 1994 yn 83 oed, ac mae stryd yn Workington wedi’i enwi’n Risman Place er cof amdano.