Tranmere 1–2 Wrecsam                                                                  

Wrecsam aeth â hi yn y gêm ddarbi yn erbyn Tarnmere ar Barc Prenton yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Sicrhaodd gôl hwyr Sean Newton y tri phwynt i’r Dreigiau wedi i gic o’r smotyn James Norwood unioni pethau i Tranmere yn dilyn gôl hanner cyntaf Kayden Jackson.

Chwarter awr a oedd ar y cloc pan agorodd Jackson y sgorio i Wrecsam ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Unionodd Norwood o’r smotyn ddeuddeg munud o ddiwedd y naw deg yn dilyn trosedd Simon Heslop ar Adam Mekki.

Ond yn ôl y daeth y Dreigiau gyda Newton yn cipio’r tri phwynt gyda pheniad o groesiad Wes York.

Mae’r canlyniad yn gnoc i obeithion Tranmere o gyrraedd y gemau ail gyfle ac yn cadw gobeithion Wrecsam yn fyw, yn fathamategol o leiaf. Mae’r Dreigiau yn aros yn wythfed, chwe phwynt y tu ôl i Braintree yn y pumed safle gyda dim ond dwy gêm ar ôl.

.

Tranmere

Tîm: Davies, Vaughan, McNulty, Jennings, Ridehalgh, Ihiekwe, Mekki, Harris, Hughes (Taylor-Fletcher 68’), Norwood, Higdon(Kirby 62’)

Gôl: Norwood [c.o.s.] 78’

Cardiau Melyn: Harris 42’, Vaughan 63’

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Hudson (Briscoe 80’), Smith, Fyfield, Newton, Evans, Heslop (York 80’), Fowler (Vidal 61’), Jackson, Jennings

Goliau: Jackson 15’, Newton 85’

Cerdyn Melyn: Heslop 74’

.

Torf: 7,541