Stevenage 2–1 Casnewydd                                                            

Sgoriodd Aaron O’Connor yn erbyn ei gyn glwb wrth i Stevenage drechu Casnewydd ar Broadhall Way yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ddwy gôl ar y blaen cyn yr egwyl a doedd gôl hwyr hwyr Alex Rodman ddim yn ddigon i achub y gêm i Gasnewydd.

Tua deg munud a oedd wedi mynd pan beniodd Jake Mulraney’r tîm cartref ar y blaen o groesiad Tom Pett a dyblodd O’Connor y fantais wedi ychydig dros hanner awr gyda gôl yn erbyn ei gyn gyflogwyr.

Wedi troi, rhoddodd Rodman lygedyn o obeith i’w dîm gyda gyda gôl dri munud o ddiwedd y naw deg ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi.

Mae’r canlyniad yn codi Stevenage dros Gasnewydd yn yn tabl, ond er bod yr Alltudion yn llithro i’r ail safle ar hugain maent yn aros un pwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp gyda dim ond pedair gêm yn weddill.

.

Stevenage

Tîm: Jones, Henry, Wilkinson, Wells, Franks, Parrett, Tonge, Mulraney (Lee 73’), Pett, O’Connor (Kennedy 70’), Luer (Gorman 88’)

Goliau: Mulraney 9’, O’Connor 32’

Cardiau Melyn: Wilkinson 32’, Mulraney 68’, O’Connor 70’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Davies (Donacien 38’), Hughes, Byrne, Elito, O’Sullivan (Boden 45’), Jones, Ayina, John-Lewis (Coulibaly 67’), Rodman

Gôl: Rodman 87’

Cardiau Melyn: Holmes 29’, Jones 32’, Elito 58’

.

Torf: 2,673