Caerdydd 0–0 QPR
Methodd Caerdydd a manteisio ar lithriad Sheffield Wednesday yn y frwydr i gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.
Dechreuodd yr Adar Gleision y dydd bum pwynt y tu ôl i Wednesday yn y chweched safle wrth iddynt groesawu QPR i Stadiwm y Ddinas, ac felly mae hi’n aros wedi i’r ddau dîm gael gemau cyfartal.
Wedi hanner cyntaf digon di fflach fe fywiogodd y gêm wedi’r egwyl.
Bu rhaid i David Marshall yn y gôl i Gaerdydd fod yn effro i atal Matt Phillips a Tjaronn Chery. Bu bron i Sean Morrison benio’r Adar Gleision ar y blaen yn y pen arall o groesiad Peter Wittingham ond gwaneth Matt Ingrm arbediad gwych.
Daeth cyfle hwyr i Sammy Ameobi hefyd ond ergydiodd eilydd Caerdydd dros y trawst yn yr eiliadau olaf.
Mae Caerdydd yn aros yn seithfed, bum pwynt o’r safleoedd ail gyfle er gwaethaf y canlyniad, ond byddant yn siomedig eu bod wedi methu a manteisio ar lithrad Sheffield Wednesday, a gafodd gêm gyfartal gôl yr un gartref yn erbyn Ipswich.
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Connolly, Malone, Wittingham (Gunnarsson 81’), Ralls, O’Keefe (Ameobi 66’), Noone, Immers (Zohore 80’), Pilkington
Cardiau Melyn: Pilkington 14’, Peltier 49’
.
QPR
Tîm: Ingram, Onuoha, Hall, Hill, Konchesky, Henry, Faurlin, Luongo, Chery (El Khayati 72’), Polter (Washington 84’), Phillips (Gladwin 66’)
Cerdyn Melyn: Konchesky 81’
.
Torf: 27,874