Newcastle 3–0 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt ymweld â Pharc St James i wynebu Newcastle yn yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.
Sgoriodd Lascelles, Sissoko a Townsend i’r tîm cartref gan sicrhau tri phwynt pwysig i dîm Rafa Benitez yn y frwydr i osgoi’r gwymp.
Wedi daugain munud prin o gyfleoedd fe aeth Newcastle ar y blaen bum munud cyn yr egwyl gyda pheniad postyn agosaf Jamaal Lascelles o gic gornel Andros Townsend.
Roedd Abertawe yn well wedi troi a chafodd Ashley Williams a Jefferson Montero gyfleoedd i’w unioni hi i’r Elyrch ond anelodd y ddau heibio’r postyn.
Newcastle yn hytrach a gafodd y gôl nesaf wrth i Moussa Sissoko sgorio yn dilyn cic gornel arall gan Townsend.
Ar ôl creu dwy gôl, fe gwblhaodd Townsend y sgorio ei hun, yr asgellwr yn sgorio yn dilyn gwaith da gan yr eilydd flaenwr, Aleksander Mitrovic.
Mae’r canlyniad yn cadw gobeithion Newcastle o aros yn yr Uwch Gynghrair yn fyw am wythnos arall. Mae Abertawe ar y llaw arall yn llithro i’r pymthegfed safle yn y tabl.
.
Newcastle
Tîm: Darlow, Anita, Mbemba, Lascelles, Dummett, Tiote (Shelvey 66’), Colback, Townsend, Sissoko, Wijnaldum (Perez 73’), Cisse (Mitrovic 80’)
Goliau: Lascelles 40’, Sissoko 82’, Townsend 89’
Cardiau Melyn: Mbemba 22’, Anita 73’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Fer (Barrow 57’), Ayew (Gomis 51’), Sigurdsson, Montero, Paloschi (Routledge 84’)
Cerdyn Melyn: Fer 9’
.
Torf: 48,949