Gweilch 47–10 Treviso
Mae gobeithion main y Gweilch o gyrraedd chwech uchaf y Guinness Pro12 yn fyw o hyd wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Treviso ar y Liberty nos Wener.
Roedd angen buddugoliaeth bwynt bonws ar y Gweilch os am unrhyw obaith o chwarae yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf, a chroesodd y Cymry am saith cais i gyd wrth chwalu’r Eidalwyr.
Hanner Cyntaf
Wyth munud oedd ar y cloc pan groesodd Dan Evans am gais cyntaf y gêm, y cefnwr yn torri trwy sawl tacl wrth orffen yn dda.
Ychwanegodd Dan arall yr ail gais hanner ffordd trwy’r hanner, yr wythwr Baker yn hyrddio drosodd wedi sgarmes symudol effeithiol.
Cafodd y tîm cartref un cais arall cyn troi wrth i’r canolwr ifanc, Owen Watkin, dderbyn pas Dan Biggar cyn croesi.
Ail Hanner
Cafodd Treviso ddechrau gwael i’r ail hanner gyda dau o’u blaenwyr yn cael eu hanfon i’r gell gosb, Dean Budd am drosedd yn ardal y dacl a Robert Barbieri am gicio’r bêl allan o ddwylo Baker.
Manteisiodd y Gweilch gyda dau gais tra’r oedd yr ymwelwyr ilawr i dri dyn ar ddeg. Cafodd y cyntaf ei ganiatáu er na lwyddodd Olly Cracknell i dirio’r bêl wedi cic gosb gyflym Rhys Webb. Yr ail oedd cais gorau’r noson wrth i Hanno Dirksen gwblhau gwrthymosodiad o gysgod pyst eu hunain gan y Gweilch.
Sgoriodd Alberto Sgarbi gais cysur i Treviso wedi hynny ond gorffennodd yr Eidalwyr y gêm gyda phedwar dyn ar ddeg wedi i Budd dderbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch am daro Adam Beard yn ei wyneb.
Manteisiodd y Gweilch yn llawn gan groesi am ddau gais unwaith eto, Dan Evans yn cropian o dan bentwr o gyrff ar gyfer y cyntaf a Ben John yn dilyn cic isel Biggar i dirio’r llall. Llwyddodd Biggar gyda’r trosiad hefyd gan orffen y gêm gyda chwech allan o saith, 47-10 y sgôr terfynol.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gweilch dros y Gleision i’r wythfed safle yn nhabl y Pro12, bedwar pwynt y tu ôl i Gaeredin sydd yn aros yn chweched er iddynt golli yn Leinster nos Wener.
.
Gweilch
Ceisiau: Dan Evans 8’, 75’, Dan Baker 21’, Owen Watkin 26’, Olly Cracknell 53’, Hanno Dirksen 54’, Ben John 79’
Trosiadau: Dan Biggar 9’, 22’, 27’, 53’, 76’, 79’
.
Treviso
Cais: Alberto Sgarbi 66’
Trosiad: Sam Christie 67’
Cic Gosb: Jayden Hayward 13’
Cardiau Melyn: Dean Budd 48’, 74’, Robert Barbieri 51’
Cerdyn Coch: Dean Budd 74’