Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n ymchwilio i honiadau bod canlyniad un o gemau Port Talbot wedi cael ei drefnu ymlaen llaw.
Mae disgwyl i’r clwb gyfarfod â’i chwaraewyr yn fuan i drafod y mater.
Mae’n debyg mai patrymau betio amheus yn ystod y gêm rhwng Port Talbot a’r Rhyl yn Uwch Gynghrair Cymru sydd wedi arwain at yr ymchwiliad.
Fe gollodd Port Talbot y gêm honno o 5-0 i dîm Rhyl oedd heb ennill yn y gynghrair ers mis Hydref ac eisoes yn sicr o orffen yn y ddau safle isaf, gan wynebu cwympo allan o’r gynghrair.
Lansio ymgyrch
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Hygrededd y Gymdeithas Bêl-droed wrth Golwg360 eu bod nhw’n “ymwybodol o’r honiadau ac yn ymchwilio iddyn nhw ac yn cydweithio efo’r awdurdodau perthnasol”.
Daw’r honiadau flwyddyn a hanner ar ôl i’r Gymdeithas Bêl-droed lansio ymgyrch er mwyn mynd i’r afael â’r nifer gynyddol o ganlyniadau gemau sy’n cael eu trefnu ymlaen llaw.
Yn 2014 dywedodd y Gymdeithas mai hon oedd y broblem fwyaf oedd yn wynebu’r gêm yng Nghymru ar y pryd.
Mae’r awdurdodau yn gweithio â chwmni dadansoddi er mwyn ceisio adnabod unrhyw batrymau annisgwyl yn y betio, ac maen nhw hefyd yn addysgu chwaraewyr o’r peryglon.
Yn ôl ffigyrau diweddar mae £575,000 yn cael ei wario ar fetio ar gemau Uwch Gynghrair Cymru bob wythnos, a £75 miliwn bob blwyddyn.