Mae cyn-fatiwr Morgannwg a Seland Newydd, Brendon McCullum wedi ei enwi’n un o bum cricedwr gorau’r flwyddyn gan Wisden Almanack.
Hefyd ar y rhestr mae ei gydwladwr Kane Williamson, capten Awstralia Steve Smith a’r Saeson Ben Stokes a Jonny Bairstow.
Mae’r Wisden Almanack wedi cael ei gyhoeddi’n flynyddol ers 1864, a dim ond unwaith yn ystod ei yrfa y gall chwaraewr gael ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn.
Mae’r rhestr yn cael ei llunio ar sail perfformiadau chwaraewyr yn ystod y tymor criced yng Nghymru a Lloegr.
Ar sail ei gapteniaeth y cafodd McCullum ei gynnwys ac fe gafodd Seland Newydd gryn ganmoliaeth yr haf diwethaf am orfodi Lloegr i chwarae criced mwy ymosodol.
Fe arweiniodd ei wlad i rownd derfynol Cwpan y Byd ddechrau’r flwyddyn, ond fe gawson nhw eu trechu gan Awstralia.
Chwaraeodd McCullum dros Forgannwg yn 2006, ac fe ddaeth ei awr fawr wrth iddo daro 160 yn erbyn Swydd Gaerlŷr yn y Bencampwriaeth.
Y pedwar arall
Steve Smith sgoriodd y nifer fwyaf o rediadau yng Nghyfres y Lludw er i Awstralia golli o 3-2. Yn ystod y gyfres, tarodd Smith ganred dwbl yn Lord’s a 143 ar yr Oval.
Sgoriodd Kane Williamson 2,692 o rediadau rhyngwladol ym mhob fformat yn ystod y flwyddyn – y trydydd cyfanswm mwyaf erioed.
Adeiladodd Stokes a Bairstow bartneriaeth o 399 yn ystod taith Lloegr i Dde Affrica, gyda Stokes yn taro 258 wrth i Bairstow daro’i ganred rhyngwladol cyntaf erioed.
Roedd Bairstow hefyd yn aelod o garfan Swydd Efrog wrth iddyn nhw ennill tlws Pencampwriaeth y Siroedd.