Guiseley 3–1 Wrecsam
Daeth gobeithion main Wrecsam o gyrraedd gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol i ben yn Guiseley nos Fawrth.
Mae hi fwy neu lai yn amhosib i’r Dreigiau orffen yn y pump uchaf bellach wedi i’r tîm cartref ennill o dair gôl i un ar Barc Nethermoor.
Roedd mynydd yn wynebu Wrecsam wedi i Guiseley sgorio dwy gôl yn gynnar yn yr hanner cyntaf. Rhoddodd Oli Johnson y tîm cartref ar y blaen wedi ychydig llai na chwarter awr o chwarae cyn i Adam Boyes ddyblu’r fantais dri munud yn ddiweddarach.
Ychwanegodd Boyes ei ail ef a thrydedd ei dîm ddeg munud yn ddiweddarach ac roedd hi fwy neu lai drosodd wedi llai na hanner awr.
Gwnaeth Gary Mills ddau newid ymosodol wrth ddod â York a Gray i’r cae yn lle Vidal a Hudson cyn yr egwyl ac fe wnaeth hynny ychydig o wahaniaeth wedi troi.
Sgoriodd Sean Newton o groesiad Lee Fowler hanner ffordd trwy’r ail hanner i roi llygedyn o obaith i’r ymwelwyr o ogledd Cymru, ond gôl gysur oedd honno yn y diwedd wrth i Guiseley ddal eu gafael ar y tri phwynt.
Mae’r canlyniad yn gadael Wrecsam yn wythfed yn y tabl gyda dim ond tair gêm ar ôl. Maent bum pwynt y tu ôl i Eastleigh sydd yn seithfed a chwe phwynt y tu ôl i Tranmere a Braintree sydd yn bumed a chweched. Gyda Tranmere ac Eastleigh eto i wynebu ei gilydd, mae angen gwyrth ar y Dreigiau.
.
Guiseley
Tîm: Drench, Toulson, Lowe, Lawlor, Parker, Atkinson, Hatfield, Norburn (Craddock 76’), Dudley (Boshell 76’), Boyes, Johnson (Rothery 56’)
Goliau: Johnson 14’, Boyes 17’, 26’
.
Wrecsam
Tîm: Taylor, Vidal (York 41’), Hudson (Gray 44’), Smith, Newton, Fyfield, Evans, Jennings, Carrington, Jackson, Heslop (Fowler 60’)
Gôl: Newton 68’
Cerdyn Melyn: Fyfield 44’
.
Torf: 1,046