Mae’r batiwr 19 oed o Abertawe, Aneurin Donald wedi taro canred dosbarth cyntaf am y tro cyntaf erioed.
Mewn 125 o belenni, sgoriodd Donald 105 heb fod allan i Forgannwg yn erbyn Prifysgolion Caerdydd yr MCC ddydd Mawrth cyn ymddeol, ac fe darodd e 11 pedwar ac un chwech yn ystod y batiad.
Y tymor diwethaf, daeth Donald o fewn trwch blewyn i guro record Matthew Maynard o fod y chwaraewr ieuengaf erioed i daro canred yn y Bencampwriaeth i Forgannwg, pan sgoriodd e 98 yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste ddiwedd y tymor.
Roedd David Lloyd eisoes wedi taro 105 heb fod allan yn gynharach yn y batiad, wrth i’r ddau adeiladu partneriaeth o 154 cyn i Lloyd ymddeol.
Ar ddiwedd y diwrnod, dywedodd Aneurin Donald: “Mae’r peth wedi bod yn hongian uwch fy mhen i ychydig bach dros y gaeaf wedi i fi orffen ar 98 [ y tymor diwethaf], ond roedd hi’n beth arbennig i gael croesi’r llinell yn y gêm gynta’r tymor hwn.
“Roedd [yr amodau] yn eithaf anodd ar y dechrau, yn enwedig gyda’r bêl yn 40-50 pelawd oed. Ond roedd y bêl newydd wedi’i gwneud hi ychydig yn haws wrth ddod ymlaen i’r bat rywfaint yn well.”
Dywedodd Donald wrth Golwg360 fod gêm baratoadol yn erbyn y prifysgolion yn cynnig cyfle gwerthfawr i Forgannwg ar ddechrau’r tymor.
“Yn amlwg, mae’n braf cael chwarae gêm dosbarth cyntaf cyn bod y pwyntiau’n cyfri. Mae hynny’n amhrisiadwy.
“Ry’n ni i gyd yn mwynhau chwarae ac mae’n gyfle gwych i ni gael ein hunain yn barod cyn dechrau’r tymor.”