Sgoriodd David Lloyd ganred dosbarth cyntaf am y tro cyntaf yn ei yrfa ar ail ddiwrnod yr ornest rhwng Morgannwg a Phrifysgolion Caerdydd yr MCC yn y Swalec SSE ddydd Mawrth.
Adeiladodd y chwaraewr amryddawn 23 oed o Lanelwy bartneriaeth o 154 gydag Aneurin Donald wrth i Forgannwg gyrraedd 331-5 cyn i Lloyd ymddeol.
Roedd ei fatiad yn cynnwys 12 ergyd am bedwar ac un chwech oddi ar 135 o belenni.
Ar ddiwedd y dydd, dywedodd David Lloyd: “Ro’n i’n falch o gael croesi’r llinell. Gobeithio bod hyn yn ddechrau tymor da.
“Gobeithio y gallwn ni’n dau [Lloyd a Donald] fynd â rhywbeth o hyn ar ddechrau’r tymor a chael mwy.
“Dwi’n hapus yn batio yn unrhyw le os ydw i’n batio’n dda ac yn cyfrannu. Carreg gamu oedd y tymor diwethaf i fi a gobeithio y galla i fynd gam ymhellach y tymor hwn gyda’r bat a’r bêl.”
Chwaraewyr o Gymru
Bydd Lloyd yn wynebu cystadleuaeth am ei le yn y tîm o du nifer o chwaraewyr eraill o Gymru’r tymor hwn, ond fe ddywedodd wrth Golwg360 ei fod yn barod am yr her.
“Mae nifer dda yn dod drwodd a dw i’n meddwl y bydd y bois yn cael cyfle da y tymor hwn. Yn amlwg, mae gan Aneurin ddyfodol da o’i flaen e, felly fe fyddwn ni’n rhoi cynnig da arni. Pwy a ŵyr, efallai y bydd criw da ohonon ni yn y tîm. Byddai hynny’n braf.”