Mark Wallace, y wicedwr mwyaf llwyddiannus yn hanes Morgannwg
Mae wicedwr Morgannwg, Mark Wallace wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn ei gadw gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2017.
Wallace oedd y wicedwr cyntaf i sgorio 10,000 o rediadau i Forgannwg pan gyrhaeddodd y nod y tymor diwethaf.
Ymddangosodd y tu ôl i’r ffyn am y tro cyntaf yn 1999 yn 17 oed, y wicedwr ieuengaf i gynrychioli’r sir yn y Bencampwriaeth.
Ac yntau wedi sicrhau ei le yn y tîm erbyn 2001, fe enillodd ei gap yn 2003.
Mae Wallace, sy’n hanu o’r Fenni, hefyd wedi cynrycholi tîm dan 19 Lloegr.
Roedd yn aelod o garfan Morgannwg a enillodd y Gynghrair Undydd Genedlaethol yn 2004.
Yn 2009, fe darodd 139 – ei gyfanswm gorau erioed mewn gêm dosbarth cyntaf ac yn 2013, sgoriodd e 118 heb fod allan – ei gyfanswm gorau erioed mewn gêm Rhestr A.
Wallace oedd capten y tîm a gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan Yorkshire Bank 40 yn 2013.
Dywedodd Mark Wallace: “Rwy wrth fy modd yn cael chwarae i Forgannwg. Mae’n rhywbeth ro’n i am ei wneud er pan o’n i’n blentyn felly rwy’n hapus iawn i gael gwneud hynny am ychydig yn hirach.
Ychwanegodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Mae Mark yn chwaraewr hŷn rhagorol ac yn eilun o fewn ein carfan ac rydym wrth ein bodd o fod wedi sicrhau ei wasanaeth tan ddiwedd 2017.”