Y Seintiau Newydd 2–0 Y Bala
Mae’r Seintiau Newydd yn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am y pumed tro yn olynol wedi iddynt guro’r Bala ar Neuadd y Parc nos Sadwrn.
Roedd goliau ail hanner Ryan Brobbel ac Aeron Edwards yn ddigon i’r Seintiau wrth iddynt gipio’r tri phwynt a chodi tlws Uwch Gynghrair Cymru am y degfed tro.
Hanner Cyntaf
Y Seintiau Newydd oedd y tîm gorau yn y chwarter agoriadol ond llwyddodd y Bala i amddiffyn yn drefnus. Yn wir, yr ymwelwyr a ddaeth agosaf at agor y sgorio, yn erbyn llif y chwarae pan darodd ôl-beniad Stuart Jones yn erbyn y postyn.
Tarodd y Seintiau y pren yn y pen arall yn fuan wedyn hefyd wrth i ergyd Aeron Edwards o bum llath ar hugain wyro yn erbyn y trawst.
Cafodd Edwards gyfle arall i agor y sgorio cyn yr egwyl hefyd ond anelodd heibio’r postyn o ddeg llath.
Ail Hanner
Prin oedd y cyfleoedd ar ddechrau’r ail gyfnod ond newidiodd hynny hanner ffordd trwy’r hanner pan agorodd Brobbel y sgorio. Gwrthymosododd y Seintiau’n chwim, gwnaeth Scott Quigley yn dda ar y chwith cyn sgwario i Brobbel yn y cwrt cosbi ac roedd ei ergyd ef rhy boeth i Ashley Morris yn y gôl.
Bu bron i’r Seintiau ddyblu eu mantais dri munud yn ddiweddarach ond arbedodd Morris gynnig Jamie Mullan cyn i Aeron Edwards anelu heibio’r postyn.
Gwnaeth Edwards yn well ddeuddeg munud o’r diwedd wrth iddo sgorio’r gôl a sicrhaodd y fuddugoliaeth a’r bencampwriaeth i’w dîm . Gwnaeth Adrian Cieslewicz yn dda ar y dde cyn i Edwards basio’r bêl yn gelfydd i gornel isaf y gôl.
Mae’r canlyniad yn rhoi bwlch o wyth pwynt rhwng y Seintiau ar frig yr Uwch Gynghrair a’r Bala sydd yn ail gyda dim ond dwy gêm yn weddill. Mae’r frwyd’r am yr ail safle yn fyw o hyd i’r Bala felly ond y Seintiau yw’r pencampwyr unwaith eto.
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, Spender, Rawlinson, K. Edwards, Pryce, Seargeant, A. Edwards, Mullan (Cieslewicz 73’), Williams, Brobbel, Quigley
Goliau: Brobbel 69’, A. Edwards 79’
Cerdyn Melyn: Brobbel 85’
.
Y Bala
Tîm: Morris, Irving, S. Jones, Valentine, Thompson, Connolly, Murtagh, Hayes (Smith 58’), Burke (M. Jones 66’), Sheridan, Hunt (Platt 86’)
Cerdyn Melyn: S. Jones 90’
.
Torf: 623