Wrecsam 0–1 Dover                                                                          

Mae gobeithion Wrecsam o gyrraedd gemau ail gyfle’r Gynghrair Genedlaethol fwy neu lai ar ben wedi iddynt golli yn erbyn Dover ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Mae’r Dreigiau bellach chwe phwynt i ffwrdd o’r pump uchaf wedi i Ricky Modeste sgorio unig gôl y gêm i’r ymwelwyr yng ngogledd Cymru.

Wedi hanner cyntaf di sgôr fe aeth Dover ar y blaen ar yr awr pan ddaeth Modeste o hyd i gefn y rhwyd gyda chymorth y postyn.

Bu bron i James Gray unioni pethau i’r tîm cartref ond tarodd ei gynnig yn erbyn y trawst.

Mae’r canlyniad yn gadael y Dreigiau yn yr wythfed safle gyda phedair gêm yn weddill, chwe phwynt i ffwrdd o Tranmere sydd yn bumed.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Smith, Vidal (Gray 70’), Newton, Fyfield, Evans (Fowler 76’), Heslop, Jackson, Beck (Moke 60’), York

.

Dover

Tîm: Walker, Deverdics, Raggett, Orlu, Kinnear (Essam 81’), Payne, Braham-Barrett, Modeste (Sterling 87’), Magri, Miller (Ofori-Acheampong 84’), Parkinson

Gôl: Modeste 61’

.

Torf: 4,931