Casnewydd 0–1 Caergrawnt
Roedd un gôl yn ddigon i Gaergrawnt wrth iddynt drechu Casnewydd ar Rodney Parade brynhawn Sadwrn.
Gêm wael oedd hi ar y cyfan a wnaeth Casnewydd ddim gorfodi Will Norris yn y gôl i’r ymwelwyr wneud yr un arbediad trwy gydol y gêm.
Nid oedd Caergrawnt fawr gwell mewn gwirionedd ond fe wnaethant ddigon i sgorio unig gôl y gêm hanner ffordd trwy’r ail hanner pan rwydodd James Dunne wedi gwaith creu Luke Berry.
Mae’r canlyniad yn cadw Casnewydd yn yr unfed safle ar hugain yn nhabl yr Ail Adran a dim ond un pwynt ar ddeg sydd yn eu gwahanu hwy a’r safleoedd disgyn bellach oherwydd gêm gyfartal i Gaerefrog yn erbyn Wycombe.
Wedi dweud hynny, dim ond pum gêm sydd yn weddill felly fe all yr Alltudion sicrhau eu lle yn y gynghrair gyda buddugoliaeth yn Stevenage yr wythnos nesaf.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Holmes (Donacien 78’), Jones, Davies, Hughes, Rodman, Byrne, Elito, Barrow (Ayina 71’), John-Lewis, Boden (Coulibaly 82’)
.
Caergrawnt
Tîm: Norris, Furlong, Coulson, Legge, Dunk, Berry, Dunne, Ledson, Clark, Spencer, Williamson (Simpson 90’)
Gôl: Dunne 68’
Cardiau Melyn: Clark 66’, Furlong 85’
.
Torf: 2,330