Fulham 2–1 Caerdydd                                                                       

Mae gobeithion Caerdydd o gyrraedd gemau ail gyfle’r Bencampwriaeth yn dechrau pylu wedi iddynt golli yn erbyn Fulham yn Craven Cottage brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd Emerson Hyndman yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm i gipio’r tri phwynt i’r tîm cartref.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i fynd ar y blaen cyn y gôl agoriadol, arbedodd Marcus Bettinelli beniad Aron Gunnarsson yn un pen a chafodd Ross McCormack ei atal gan gan David Marshall yn y pen arall.

Daeth y gôl yn y diwedd, bum munud cyn yr egwyl, wrth i Lex Immers benio Caerdydd ar y blaen o groesiad Gunnarsson.

Felly yr arhosodd hi tan hanner amser ond roedd Fulham yn gyfartal o fewn hanner munud i’r ail ddechrau. Cododd Moussa Dembele y bêl dros amddiffyn Caerdydd gan ddod o hyd i Scott Parker a rhwydodd yntau’n daclus.

Gunnarsson a Sean Morrison a ddaeth agosaf at adfer mantais Caerdydd ond cyfartal oedd hi wrth i’r chwiban olaf agosáu.

Yna, dri munud wedi’r naw deg, methodd Caerdydd a chlirio cic gornel a rhwydodd Hyndman i gipio’r tri phwynt i’r tîm cartref.

Mae’r canlyniad yn ergyd fawr i obeithion yr Adar Gleision o gyrraedd y chwech uchaf. Pum pwynt yw’r bwlch rhyngddynt a’r chweched safle o hyd gan i Sheffield Wednesday golli hefyd, ond dim ond pum gêm sydd bellach ar ôl.

.

Fulham

Tîm: Bettinelli, Stearman, Madl (Fredericks 45’), Amorobieta, Garbutt, Parker (Baird 77’), Tunnicliffe (Christensen 67’), Ince, Hyndman, McCormack, Dembele

Goliau: Parker 46’, Hyndman 90+3’

Cerdyn Melyn: Fredericks 88’

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Malone, Nonne, Gunnarsson (Saadi 82’), Ralls, Wittingham, Lawrence (Zohore 65’), Immers

Gôl: Immers 41’

                          

.

Torf: 17,149