Abertawe 1–0 Chelsea
Mae Abertawe fwy neu lai yn ddiogel yn dilyn buddugoliaeth o gôl i ddim gartref yn erbyn Chelsea ar y Liberty brynhawn Sadwrn.
Mae’r Elyrch bellach wedi cyrraedd y deugain pwynt holl bwysig yn yr Uwch Gynghrair wedi i gôl hanner cyntaf Gylfi Sigurdsson sicrhau’r tri phwynt iddynt yn erbyn pencampwyr llynedd.
Llwyr reolodd y tîm cartref yr hanner cyntaf ac roeddynt yn llawn haeddu mynd ar y blaen wedi 25 munud diolch i unfed gôl ar ddeg Sigurdsson yn y gynghrair y tymor hwn. Peniodd Matt Miazga groesiad Jefferson Montero yn syth at y gŵr o Wlad yr Iâ a gwnaeth yntau’r gweddill.
Roedd Chelsea fymryn yn well wedi’r egwyl ac roedd Alexandre Pato yn meddwl ei fod wedi unioni’r sgôr yn gynnar yn yr ail gyfnod ond roedd wedi llawio’r bêl cyn rhwydo.
Cafodd yr ymosodwr o Frasil gyfle yn fuan wedi hynny hefyd ond sodlodd y bêl heibio’r postyn.
Daliodd Abertawe eu gafael yn gymharol gyfforddus yn y diwedd gan sicrhau’r tri phwynt gyda llechen lân.
Mae’r canlyniad yn codi tîm Francesco Guidolin i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl ac yn eu rhoi dri phwynt ar ddeg yn glir o Sunderland sydd yn ddeunawfed gyda dim ond saith gêm i fynd.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Fer, Ayew (Routledge 67’), Sigurdsson, Montero(Naughton 84’), Paloschi (Gomis 75’)
Gôl: Sigurdsson 25’
Cardiau Melyn: Rangel 30’, Taylor 43’, Paloschi 70’, Fer 79’
.
Chelsea
Tîm: Begovic, Azpilicueta, Miazga (Kennedy 45’), Ivanovic, Baba, Mikel, Fabregas, Oscar, Loftus-Cheek (Falcao 76’), Pedro, Pato (Traore 64’)
Cardiau Melyn: Azpilicueta 36’, Miazga 40’, Pedro 71’
.
Torf: 20,966