Aaron Ramsey yn dathlu sgorio yn erbyn Spurs (Llun:Adam Davy/PA)
Nid yw Aaron Ramsey yn chwarae cystal i Gymru ag y mae o i Arsenal, yn ôl un o’i gyn gyd-chwaraewr ar y lefel rhyngwladol.
Dywedodd Danny Gabbidon, a enillodd 49 cap dros Gymru cyn ymddeol yn 2014, mai Ewro 2016 yw’r llwyfan perffaith i’r chwaraewr canol cae ddangos ei ddoniau.
Fe sgoriodd Ramsey ddwy gôl yn yr ystod ymgyrch ragbrofol i gyrraedd y twrnament yn Ffrainc – ond doedd dim amheuaeth mai Gareth Bale, a rwydodd saith o weithiau, oedd prif seren y tîm.
Mae’r gŵr o Gaerffili ’ar fin dychwelyd o anaf i’w glun <http://golwg360.cymru/chwaraeon/220401-ramsey-a-robson-kanu-yn-agos-at-fod-yn-holliach>, ac fe allai chwarae dros Arsenal yn erbyn Wet Ham yfory wrth i’r Gunners ymladd ar frig Uwch Gynghrair Lloegr.
‘Pwynt i’w brofi’
Mae gan Ramsey, sydd wedi methu tair gêm gyfeillgar ddiwethaf Cymru oherwydd anafiadau, ddeg gôl mewn 38 cap dros ei wlad.
Ac yn ôl Gabbidon, fe fydd pencampwriaethau Ewrop ym mis Mehefin yn rhoi cyfle i’r chwaraewr 25 oed ddangos y gall serennu dros Gymru yn ogystal â’i glwb.
“Rydw i’n disgwyl twrnament mawr ganddo achos dw i’n meddwl bod lot i ddod eto ganddo yng nghrys Cymru,” meddai’r cyn-amddiffynnwr wrth Adran Chwaraeon y BBC.
“Yn ystod y cwpl o dymhorau diwethaf yn Arsenal mae wedi gwneud yn dda iawn, ond dw i ddim yn meddwl ei fod e cweit wedi trosglwyddo hynny i grys Cymru eto.”