Fe fydd gan Aaron Ramsey ac Arsenal obeithion o hyd o ennill yr Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor, ond maen nhw'n wynebu tasg anodd wrth geisio dal Caerlŷr bellach (llun: Adam Davy/PA)
Mae disgwyl i Aaron Ramsey a Hal Robson-Kanu ddychwelyd o anafiadau yn yr wythnosau nesaf, a hynny’n newyddion da i gefnogwyr Cymru gyda deufis yn unig nes Ewro 2016.

Fe fethodd y ddau chwaraewr gemau cyfeillgar y tîm cenedlaethol ddiwedd mis Mawrth gydag anafiadau i’w cluniau.

Ond fe allai Ramsey ddychwelyd i dîm Arsenal y penwythnos yma wrth iddyn nhw deithio i West Ham gyda gobaith o hyd o ddal Caerlŷr ar frig yr Uwch Gynghrair.

Mae Robson-Kanu wedi dweud hefyd ei fod yn disgwyl bod nôl yn chwarae i Reading cyn diwedd y tymor, wrth iddo geisio adennill ei ffitrwydd cyn y twrnament yn Ffrainc ym mis Mehefin a Gorffennaf.

Sawl un yn dychwelyd

Dywedodd rheolwr Arsenal Arsene Wenger bod Ramsey nôl yn ymarfer gyda’r tîm yr wythnos hon, ac y gallai fod ar y fainc ar gyfer yr ornest ddydd Sadwrn.

Byddai hynny’n rhoi digon o amser i’r seren ganol cae brofi’i ffitrwydd cyn i reolwr Cymru Chris Coleman enwi’i garfan fydd yn mynd i’r Ewros ar ddiwedd mis Mai.

Fe fydd Coleman hefyd yn falch o wybod bod Robson-Kanu, a arweiniodd linell ymosodol Cymru am y rhan fwyaf o’r ymgyrch ragbrofol lwyddiannus, hefyd yn ffit eto’n fuan.

Mae Dave Edwards eisoes wedi ymddangos fel eilydd dros Wolves yr wythnos hon yn ei gêm gyntaf nôl ers torri asgwrn yn ei droed ym mis Ionawr.

Fe allai amddiffynnwr West Ham James Collins hefyd fod yn ffit erbyn y penwythnos yn dilyn anaf i linyn y gâr, ond mae disgwyl i amddiffynnwr Newcastle Paul Dummett fod allan am gwpwl o wythnosau eto â’r un anaf.