Burnley 0–0 Caerdydd                                                                      

Di sgôr oedd hi wrth i Gaerdydd ymweld â Turf Moor i wynebu Burnley yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.

Mae’n bwynt gwerthfawr i’r Adar Gleision yn erbyn y tîm a ddechreuodd y gêm ar frig tabl, ond mae’r tîm o Gymru yn colli tir ar y chwech uchaf gan i Derby a Sheffield Wednesday ennill.

Doedd dim llawer rhwng y ddau dîm ar y cyfan er mai’r tîm cartref a ddaeth agosaf at sgorio gyda Andre Gray a George Boyd yn gorfodi David Marshall i arbed.

Tarodd Kenneth Zohore y trawst i Gaerdydd gyda chynnig deheuig dri munud o ddiwedd y naw deg, a bu rhaid i Marshall fod yn effro tan y diwedd i atal dau gynnig hwyr yn y pen arall gan Sam Vokes ac Ashley Barnes yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm.

Mae Caerdydd yn aros yn seithfed yn nhabl y Bencampwriaeth ond maent bellach bedwar pwynt i ffwrdd o’r safleoedd ail gyfle oherwydd buddugoliaethau i Derby a Sheffield Wednesday gartref yn erbyn Hull a Blackburn.

.

Burnley

Tîm: Heaton, Lowton, Keane, Mee, Ward, Boyd, Jones, Barton, Arfield (Taylor 67’), Vokes, Gray (Barnes 75’)

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Peltier, Morrison, Ecuele Manga, Malone, Lawrence (Noone 83’), O’Keefe (Zahore 83’), Dikgacoi, Ralls, Pilkington (Gunnarsson 67’), Immers

.

Torf: 15,740