Mae awdurdodau Ffrainc wedi cynnal ymarferion gwrth-frawychol yn y ddinas ble bydd Cymru’n chwarae eu gêm gyntaf yn Ewro 2016.
Bydd tîm Chris Coleman yn wynebu Slofacia yn Bordeaux ddydd Sadwrn, 11 Mehefin, yn eu gêm agoriadol, ac mae disgwyl y bydd dros 10,000 o gefnogwyr Cymru yn y ddinas ar gyfer yr ornest.
Fe fydd Cymru hefyd yn herio Lloegr yn Lens, a Rwsia yn Toulouse, yn eu gemau grŵp eraill.
Ond mae trefnwyr y bencampwriaeth bêl-droed yn wyliadwrus o unrhyw fygythiadau posib ar hyn o bryd yn dilyn yr ymosodiadau brawychol ym Mrwsel fis diwethaf ac ym Mharis llynedd. Mae hynny wedi arwain at gynyddu mesurau diogelwch gan gynnwys cyflogi mwy o swyddogion, a chynnal ymarferion er mwyn gwybod sut i ymateb petai yna ymosodiad.
‘Brawychwr’ â ffrwydron
Fe gymrodd dros 500 o weithwyr brys ran yn y dril diweddaraf ym Mordeaux barodd dros ddwy awr.
Roedd yr awdurdodau wedi trefnu ymosodiad ffug gan ddau grŵp o frawychwyr yn y Place de Quinconces, ble bydd parth cefnogwyr fydd yn dal 62,000 o bobol yn cael ei sefydlu yn ystod Ewro 2016.
Bu gweinidog cartref Ffrainc Bernard Cazeneuve a’r gweinidog iechyd Marisol Touraine yn bresennol yn ystod yr ymarferion, a welodd un ‘brawychwr’ yn rhedeg i mewn i dorf o actorion gyda fest ffrwydrol.
Cafodd ‘brawychwr’ arall ei saethu gan yr heddlu, ac fe gymrodd un arall ddeg o wystlon, yn ôl Sky News, wrth i’r heddlu, y gwasanaeth tân a gweithwyr meddygol ruthro i’r sgwâr i ddelio â’r ‘ymosodiad’.
‘Dim ildio’
Mae disgwyl i filiynau o gefnogwyr o bob cwr o Ewrop deithio i Ffrainc ar gyfer y gystadleuaeth, fydd yn cael ei chynnal ym mis Mehefin a Gorffennaf.
Mewn araith ddiweddar fe fynnodd arlywydd Ffrainc Francois Hollande na fyddai’r ymosodiadau brawychol diweddar yn effeithio ar y gystadleuaeth, gan ddweud na fyddai’r wlad yn “ildio i’r pwysau a’r bygythiad yma”. Serch hynny fe gyfaddefodd rhai o chwaraewyr Cymru yn ystod eu gemau cyfeillgar diweddar fod ganddynt bryderon ynglŷn â diogelwch yn y gystadleuaeth.
Ond cafwyd croeso gan reolwr tîm Cymru, Chris Coleman, i gyhoeddiad trefnwyr y pencampwriaethau UEFA nad oedd unrhyw gynlluniau ganddyn nhw i gynnal gemau y tu ôl i ddrysau caeedig.