Alex Cuthbert
Mae asgellwr Cymru, Alex Cuthbert, wedi cyhoeddi y bydd yn aros gyda’r Gleision ar ôl arwyddo cytundeb newydd – a hynny ar ei ben-blwydd yn 26 oed.
Roedd sôn yn gynharach yn y tymor fod y chwaraewr yn ystyried cynigion i symud i glwb yn Lloegr, ond mae nawr wedi cadarnhau y bydd yn aros yng Nghaerdydd y tymor nesaf.
Ar hyn o bryd mae Cuthbert yn gwella o anaf i’w ben-glin sydd yn golygu y bydd yn methu taith Cymru i Seland Newydd yn yr haf.
Mae’r asgellwr wedi sgorio 15 cais mewn 42 gêm dros ei wlad, yn ogystal â sgorio 37 cais mewn dim ond 79 gêm dros y Gleision.
Canmol yr hyfforddwr
Cafodd Alex Cuthbert ei gynnwys yng ngharfan y Llewod ar eu taith i Awstralia yn 2013, gan sgorio cais yn y prawf cyntaf ym Mrisbane.
Ond ers hynny dyw ei berfformiadau ar y lefel rhyngwladol ddim wedi bod cystal, ac mae wedi dod dan bwysau oddi wrth lawer o sylwebwyr a chefnogwyr Cymru.
Wrth arwyddo’r cytundeb newydd gyda’r rhanbarth fe ddywedodd yr asgellwr bod prif hyfforddwr newydd y rhanbarth eleni yn un o’r prif ffactorau.
“Rydw i wir wedi mwynhau’r awyrgylch y tymor yma gyda Gleision Caerdydd o dan arweiniad Danny Wilson, a’r cyfeiriad rydyn ni’n mynd,” meddai Cuthbert.
“Mae’r chwaraewyr wedi croesawu’r steil o rygbi rydyn ni’n ceisio’i fabwysiadu ac mae canlyniadau’r chwe mis diwethaf wedi adlewyrchu hynny.”