Gareth Bale yn dathlu sgorio yn erbyn Barcelona cyn iddo sylwi fod y dyfarnwr wedi chwythu am drosedd yn erbyn Jordi Alba (llun: Manu Fernandez/AP)
Cafodd perfformiad Gareth Bale nos Sadwrn ei ddisgrifio gan sawl un fel un o’i orau erioed dros Real Madrid wrth i’w dîm drechu Barcelona oddi cartref yn narbi El Clasico yn Sbaen.
Fe orffennodd yr ornest yn 2-1 i Los Blancos diolch i gôl hwyr gan Ronaldo gafodd ei chreu gan Bale, a hynny ar ôl i’r dyfarnwr beidio â chaniatáu gôl digon dilys gan y Cymro yn gynharach wedi gwthiad honedig.
Mae’r canlyniad dal yn gadael Real saith pwynt y tu ôl i Barcelona ar frig La Liga gyda saith gêm i fynd fodd bynnag, gan olygu bod tasg fawr o’u blaenau o hyd os ydyn nhw dal yn gobeithio ennill y gynghrair.
Nôl yn Uwch Gynghrair Lloegr ac fe gymrodd Caerlŷr gam mawr eu hunain tuag at ennill y gynghrair ar ôl buddugoliaeth o 1-0 dros Southampton, er mai gwylio o’r fainc yn unig oedd Andy King.
Fe lithrodd Spurs yn bellach ar ei hôl hi yn y ras ar ôl gêm gyfartal o 1-1 yn Lerpwl, gyda Joe Allen yn cael wyth munud ar y cae i’r tîm cartref ond Ben Davies a Danny Ward yn gwylio o’r fainc.
Chwaraeodd Ashley Williams gêm lawn wrth i Abertawe frwydro nôl i gael canlyniad cyfartal 2-2 yn Stoke, gyda Neil Taylor yn dod ymlaen fel eilydd yn y deng munud olaf.
Fe orffennodd hi’n 2-2 hefyd rhwng West Ham a Crystal Palace, gyda Wayne Hennessey yn cael ei guro gyda chic rydd wefreiddiol gan Dmitri Payet ar gyfer ail gôl yr Hammers, a Joe Ledley yn chwarae 71 munud.
Cafodd James Chester gêm lawn i West Brom wrth iddyn nhw gael canlyniad di-sgôr yn Sunderland.
Mae Aaron Ramsey, James Collins a Paul Dummett dal yn absennol ag anafiadau, tra bod Shaun Macdonald a Rhoys Wiggins wedi cael eu gadael allan o dîm Bournemouth unwaith yn rhagor.
Y Bencampwriaeth
Mae gan Burnley fantais o bedwar pwynt o hyd ar frig y Bencampwriaeth ar ôl canlyniad cyfartal o 2-2 yn erbyn Brighton, gyda Sam Vokes yn cael gêm lawn ond yn methu â chanfod cefn y rhwyd.
Daeth Tom Lawrence ymlaen fel eilydd munud olaf wrth i Gaerdydd sicrhau buddugoliaeth o 2-1 yn erbyn Derby sy’n golygu eu bod nhw bellach dau bwynt i ffwrdd o’r gemau ail gyfle.
Fe enillodd Fulham, oedd heb Jazz Richards yn eu tîm, o 2-1 yn erbyn MK Dons a ddechreuodd gyda Joe Walsh a Jonny Williams.
Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Chris Gunter, Morgan Fox, David Cotterill, Joel Lynch a David Vaughan.
Ond fe arhosodd Adam Henley ac Emyr Huws ar y fainc i’w clybiau, tra bod Hal Robson-Kanu a Dave Edwards ymysg y rheiny sydd dal wedi anafu.
Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe beniodd Simon Church gôl gyntaf Aberdeen wrth iddyn nhw drechu Hamilton o 3-0 i gadw’u gobeithion gwan o ddal Celtic ar y brig yn fyw, gydag Ash Taylor hefyd yn chwarae hanner gêm.
Ond ni chafodd Owain Fôn Williams y gêm orau wrth i Inverness golli 2-1 yn erbyn Motherwell, gan fethu â dal y bêl o groesiad cyn fflapio ar yr ergyd ar gyfer y gôl gyntaf, ac yna rhuthro allan yn rhy gynnar ar gyfer yr ail.
Yng Nghynghrair Un fe rwydodd Wes Burns unwaith i Fleetwood wrth i’w dîm o a Chris Maxwell gael gêm gyfartal â Swindon a Louis Thompson.
Ond ar ôl ennill ei gap cyntaf dros Gymru’r wythnos diwethaf, ni lwyddodd Tom Bradshaw i sgorio wrth i Walsall golli o 2-0 i Sheffield United.
Mae tîm Bradshaw yn aros yn drydydd yn y tabl am y tro fodd bynnag gan fod Gillingham, oedd â George Williams ac Andrew Crofts yn eu tîm, fethu ag ennill hefyd.
Ac roedd hi’n benwythnos i’w ddathlu i Gymry Barnsley wrth iddyn nhw drechu Rhydychen o 3-2 i ennill ffeinal Tlws y Johnstone’s Paint, gydag Adam Davies a Lloyd Isgrove yn chwarae a Lewin Nyatanga a Marley Watkins ymysg yr eilyddion.
Seren yr wythnos – Gareth Bale. Y saib yn ystod y cyfnod rhyngwladol wedi gwneud byd o les i’r ymosodwr, mae’n debyg.
Siom yr wythnos – Owain Fôn Williams. Perfformiad fydd ddim yn helpu’i achos dros barhau i fod yn ail ddewis i Gymru yn y gôl o flaen Danny Ward.