Y Cymro'n hapus gyda'i berfformiad
Roedd y ddau Gymro Luke Rowe a Geraint Thomas yn allweddol yn llwyddiant Team Sky yn De Ronde yn Fflandrys wrth iddyn nhw sicrhau eu canlyniad gorau erioed yn y ras.
Gorffennodd Rowe yn bumed, tra bod Thomas yn ddeuddegfed yn y ras oedd yn cael ei chynnal am y canfed tro.
Peter Sagan ddaeth i’r brig, a Lizzie Armitstead yn fuddugol yn y ras i ferched.
Llwyddodd y ddau i ddarganfod eu hunain yn y trydydd grŵp ar y ffordd, gan roi eu hunain mewn sefyllfa i allu gwibio tua’r terfyn.
Dechrau digon siomedig gafodd Thomas yn dilyn gwrthdrawiad ar ddechrau’r ras ond fe ddangosodd gryn gymeriad i barhau i roi gobaith i’w dîm yn y pen draw.
Ar ddiwedd y ras, dywedodd Luke Rowe wrth wefan Team Sky ei fod yn hapus â’i berfformiad ar y diwrnod.
“Fel tîm, gwnaethon ni seiclo’n dda heddiw. Roedden ni yn y blaen drwyddi draw ac fe ddywedon ni y bydden ni’n ceisio rhoi dyn mewn sefyllfa i allu ymosod bob tro ar ôl y Koppenberg a dw i’n credu ein bod ni wedi gwneud hynny.
“Ar lefel bersonol, dw i’n amlwg yn eitha hapus gyda hynny. Wnaethon ni ddim ennill y ras ond mae’n gam ymlaen unwaith eto. Rhaid i fi fod yn hapus gyda hynny.”