Joe Allen - seren yr wythnos i Gymru?
Owain Schiavone sy’n trafod gemau penwythnos y Pasg yn erbyn Gogledd Iwerddon ac Wcrain, a’r gwersi sydd wedi eu dysgu.
Os ydy Chris Coleman yn darllen y blog yma, yna debyg mod i wedi’i siomi o’n barod gyda phenawd y darn. Mae rheolwr Cymru wedi bod yn amharod iawn i alw’r gemau yn erbyn Gogledd Iwerddon nos Iau, ac yn erbyn yr Wcrain neithiwr yn gemau ‘cyfeillgar’, gan ffafrio eu galw’n gemau paratoadol.
Ac mae’n debyg bod disgrifiad Coleman yn un mwy cywir wrth iddo ddefnyddio’r ddwy gêm i baratoi ei chwaraewyr ar gyfer gwrthwynebwyr sy’n chwarae steil tebyg o bêl-droed yng ngrŵp B Ewro 2016 ar y naill law, a pharatoi i enwi ei garfan o 23 ar gyfer y bencampwriaeth ar y llall.
Yn bersonol, dwi’m yn siŵr faint o werth sydd mewn trefnu gemau’n erbyn timau sy’n chwarae ‘steil tebyg’ o bêl-droed…yn enwedig os mai Gogledd Iwerddon ydy’r dummy run ar gyfer herio Lloegr! Wedi dweud hynny, dwi’n credu y bydd Colemau a’i dîm hyfforddi wedi dysgu digon dros y ddwy gêm am eu tîm eu hunain a bellach yn gwybod i bob pwrpas pa 23 chwaraewr fydd yn eu carfan ar gyfer Ffrainc.
Felly pa wersi mae Coleman, a ni fel cefnogwyr wedi’u dysgu?
5-3-2 ôl ddy wê
…neu 3-5-2, neu 5-3-1-1, neu sut bynnag rydach chi am ddisgrifio’r system y gwnaeth Cymru ffafrio yn ystod yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2016. Dwi’n credu bod y rhan fwyaf ohonom wedi croesawu gweld Coleman yn dewis tîm i chwarae 4-4-2 yn erbyn Gogledd Iwerddon, gyda 2 asgellwr go iawn yn George Williams a David Cotterill i bwmpio croesiadau i Sam Vokes yn y canol – Plan B ar gyfer Ffrainc.
Yn anffodus, wnaeth Plan B ddim gweithio cystal â’r gobaith a phrin iawn oedd y croesiadau. Roedd Vokes yn edrych yn drwm, araf, a thrwsgl o’i gymharu â Robson-Kanu sydd wedi bod yn brif ymosodwr Cymru’n ystod yr ymgyrch, a Simon Church wnaeth wahaniaeth mawr ar ôl dod i’r cae. Mae’n siŵr y byddai ymosod Cymru wedi bod yn fwy effeithiol gydag Allen yn dechrau yn y canol a Neil Taylor yn cynnig ei reddf ymosodol fel cefnwr chwith, ond doedd Cymru jyst ddim yn edrych yn gyfforddus.
O’r funud gyntaf yn erbyn yr Wcrain, roedd y tîm yn llawer mwy cartrefol gyda Coleman yn dewis dychwelyd at dri yng nghanol yr amddiffyn, a’r triawd o Allen, Huws a Jonathan Williams yng nghanol cae.
Er bod Cymru dal yn dipyn gwell tîm na Gogledd Iwerddon nos Wener, ar sail eu perfformiad, a hwnnw’n erbyn Andora yn y gêm ragbrofol olaf, tydi 4-4-2 ddim yn gweddu i Gymru a bydd rhaid meddwl am Plan B arall.
Mae Joe Allen yn wirioneddol dda
Dwi’n siŵr bod holl gefnogwyr Cymru’n gwerthfawrogi doniau a chyfraniad pwysig Joe Allen, neu Pirlo Penfro fel fydda i’n ei alw erbyn hyn. Os oedd angen dwyn perswad ar unrhyw un, yna bydd y ddwy gêm yma heb os wedi gwneud hynny.
Dim ond am 20 munud roedd Allen ar y cae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ond fe newidiodd y gêm gan godi’r tempo a rheoli’r chwarae yng nghanol cae. Dwi’n hoffi David Vaughan, a dwi’m yn credu iddo wneud llawer o’i le nos Iau, ond dydy o ddim yn gallu gyrru’r tîm fel Allen.
Heb os Allen oedd seren y gêm yn erbyn Wcrain neithiwr hefyd – roedd o ym mhobman. Yn absenoldeb Bale a Ramsey mae Allen yn barod iawn i gymryd y cyfrifoldeb, ac roedd Emyr Huws yn edrych yn gyfforddus iawn wrth ei ochr.
Yn ddisgwyliedig, ges i dipyn o stic am awgrymu ar Twitter nos Iau y gallai Andrew Crofts wthio Joe Ledley am ei le wrth ochr Allen yng nghanol cae Cymru. Dwi’n hoff iawn o Ledley, ac mae pawb yn gwybod ei fod yn ganolog i ysbryd y garfan arbennig yma, ond ro’n i’n siomedig iawn â’i berfformiad yn erbyn y Gwyddelod, ac yn meddwl bod Crofts wedi gwneud gwahaniaeth yn yr ail hanner … er dwi’n amheus â fydd yn cael ei ddewis yn y 23.
Roedd Huws yn dda iawn yn erbyn Wcrain hefyd, ac mae sawl opsiwn gan Coleman ar gyfer yr ail safle angori yng nghanol cae, ond yn sicr mae enw Joe Allen gyda’r cyntaf yn y tîm.
Amddiffyn safleoedd gosod
Roedd llwyddiant ymgyrch ragbrofol Cymru wedi’i seilio ar amddiffyn cadarn. Yn wir, gyda goliau’n brin roedd rhediad Cymru o 5 gêm ragbrofol heb ildio’n gwbl allweddol.
Yn anffodus, mae’n dechrau dod i’r amlwg bod gwendid gwirioneddol wrth amddiffyn ciciau rhydd a chorneli. Roedd awgrym o hyn yn ystod yr ymgyrch – daeth dwy gôl Bosnia Herzegovina yn Zenica o safleoedd gosod. Ac os feddyliwch chi reit nôl at drydedd gêm yr ymgyrch yn erbyn Cyprus yn Stadiwm Dinas Caerdydd, roedd gôl yr ymwelwyr yn ganlyniad i amddiffyn echrydus o gic rydd.
Yn y ddwy gêm dros y Pasg, mae Cymru wedi ildio dwy gôl arall o safleoedd gosod a’r ddwy’n dod o ddiffyg canolbwyntio a methu ymateb yn ddigon cyflym. Y peth cadarnhaol ydy rŵan bod y gwendid yn glir, mae’n rywbeth y gellir ei ymarfer a chywiro.
Dyfnder yn y canol, ond ddim cystal mewn mannau eraill
Dyma rywbeth roedden ni eisoes yn ei wybod mewn gwirionedd, ond mae’r gemau yma wedi tanlinellu’r ffaith. Mae gan Gymru ddigon o ddyfnder yng nghanol y cae, a bydd hyn yn achosi cur pen i Coleman wrth geisio dewis ei garfan o 23. Mae digon o ddewis o gefnwyr de a chwith hefyd.
Y brobem ydy’n bod ni’n brin o chwaraewyr yng nghanol yr amddiffyn ac yn yr ymosod. Byddai colli Ashley Williams i anaf neu waharddiad yn drychineb i Gymru gan nad oes unrhyw un sy’n agos at ei safon. Mae Chester yn ychwanegiad da i’r garfan, ond yn brin o gemau clwb a hynny’n dangos. Er wedi’i anafu ar hyn o bryd, mae James Collins wedi cael tymor da i West Ham, ond wedi colli ei gyflymder ac yn well fel un o ddau amddifynwr canol nag o dri. Er bod Ben Davies a Chris Gunter wedi chwarae’n dda pan fo’u hangen wrth ochr Williams yn y tri, cefnwyr ydyn nhw a byddai rhywun yn llai hyderus ynddyn nhw heb arweiniad Williams.
Yn yr ymosod, mae’r gemau yma wedi dangos pam bod Hal Robson-Kanu wedi selio ei le fel rhif 9. Mae Vokes wedi bod yn siomedig, ac er bod Church wedi gwneud yn dda mae dal rhywbeth ar goll ei gêm.
Gyda chymaint o ddewis yng nghanol cae, bydd hi’n ddiddorol gweld os ydy Coleman yn penderfynu mynd â 9 chwaraewr canol cae a 7 amddiffynwr i Ffrainc yn hytrach nag 8 a 8 fel y disgwylir.
Nid tîm un twrnament
Dwi ddim am ddarogan degawdau o lwyddiant i Gymru, ond mae rhai o’r chwaraewyr iau wedi dangos bod digon o addewid ar gyfer y dyfodol yn y garfan yma.
Mae Jonathan Williams, er siŵr o fod yn ddu las ar ôl cael ei gicio gymaint dros y ddwy gêm, wedi bod yn ardderchog. Er dal braidd yn amrwd, roedd George Williams yn dda iawn yn erbyn Gogledd Iwerddon a gobeithio wedi gwneud digon i ennill ei docyn i Ffrainc.
Roedd Emyr Huws yn edrych yn gyfforddus iawn yng nghanol cae’n erbyn gwrthwynebwyr anodd yn Wcrain, a fyswn i’n synnu dim petai’n cael rhediad da i Huddersfield rhwng hyn a diwedd y tymor y bydd yn ennill ei le yn y garfan cyn enwau mwy profiadol fel Crofts a Dave Edwards.
Byddai’n dda gweld y tri yma’n cael eu lle yn y garfan, hyd yn oed os dim ond er mwyn rhoi’r profiad o dwrnament mawr iddyn nhw, gan obeithio mai dyma’r cyntaf o nifer!
Mi wnaeth Lloyd Isgrove hefyd greu argraff arna’i ar ôl dod i’r cae yn erbyn Gogledd Iwerddon.
Yr unig un siomedig o’r to ifanc addawol oedd Tom Lawrence, a gafodd bob cyfle gan Coleman gan ddechrau’r ddwy gêm. Mae’n anhebygol y bydd Lawrence yn cael ei le yn y cwota o chwaraewyr canol cae, ac mae Simon Church wedi gwneud digon i fachu’r un lle posib oedd ar ôl ymysg yr ymosodwyr yn fy marn i.