Yn ôl Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande mae cwmnïau diogelwch preifat wedi cyflogi 3,000 o staff ychwanegol ar gyfer pencampwriaeth bêl-droed Ewro 2016.
Yn dilyn yr ymosodiadau ym Mrwsel wythnos ddiwethaf pan gafodd 35 o bobl eu lladd, mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi penderfynu parhau gyda’r trefniadau ar gyfer Ewro 2016 rhwng 10 Mehefin a 10 Gorffennaf.
Dywedodd Francois Hollande bod disgwyl i 2.5 miliwn o bobl fynychu’r gemau mewn 10 o ddinasoedd yn Ffrainc, ac mae disgwyl i tua 5 miliwn o bobl wylio’r gemau ar sgriniau mawr mewn mannau awyr agored.
Wrth gyfeirio at yr ymosodiadau, dywedodd Francois Hollande mewn araith gerbron ffigurau o’r byd chwaraeon ym Mharis, bod yn “rhaid dangos na fydd chwaraeon, ynghyd a’n diwylliant, a’n ffordd o fyw, yn ildio i’r pwysau a’r bygythiad yma.”