Lee Byrne
Mae’r cyn chwaraewr rygbi i Gymru, Lee Byrne, wedi canmol y gwasanaethau brys wedi iddo fod mewn gwrthdrawiad car neithiwr.

Fe ddiolchodd i’r gwasanaeth ambiwlans, tân a’r heddlu mewn llun ohono’n gorwedd ar stretsier ar ei gyfrif Twitter.

Mae llefarydd ar ran Heddlu De Cymru wedi cadarnhau iddyn nhw dderbyn galwad i Heol Tondu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ychydig cyn 7 nos Lun, Mawrth 28.

Dywedodd y llefarydd fod y gwrthdrawiad wedi digwydd rhwng Audi Q3 a Ford Fiesta. Cafodd gyrwyr y cerbydau eu cludo i’r ysbyty, ond doedd eu hanafiadau ddim yn ddifrifol.

Fe wnaeth y cefnwr, sydd wedi ennill 46 o gapiau dros Gymru ac wedi bod yn rhan o dîm y Llewod yn 2009, ymddeol o rygbi proffesiynol ym mis Ebrill y llynedd oherwydd anaf i’w ysgwydd.