Wcráin 1–0 Cymru                                                                              

Colli fu hanes Cymru yn eu gêm gyfeillgar olaf cyn i Chris Coleman enwi ei garfan ar gyfer Ewro 2016.

Teithiodd Cymru i Kiev i herio’r Wcráin yn y Stadiwm Olympaidd, ond er iddynt reoli’r meddiant mewn perfformiad digon calonogol, y tîm cartref aeth â hi diolch i gôl hanner cyntaf Andriy Yarmolenko.

Dechreuodd Cymru’n addawol gyda Joe Allen yn rheoli’r gêm o ganol cae. Prin oedd y bygythiad o flaen gôl serch hynny ar wahân i hanner cyfle Tom Lawrence a gafodd ei arbed yn gyfforddus gan Andriy Pyatov.

Wnaeth y tîm cartref ddim creu llawer yn y pen arall chwaith ond roeddynt ar y blaen wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae.

Cododd Ruslan Rotan gic rydd dros amddiffyn llonydd Cymru gan ddod o hyd i Yarmolenko mewn aceri o le. Llwyddodd yntau i droi a tharo hanner foli gadarn a oedd yn rhy boeth i Wayne Hennessy. Ergyd dda gan yr ymosodwr cartref ond gôl hynod siomedig i’w hildio o safbwynt Cymru.

Cymru a gafodd y gorau o’r ail hanner hefyd, ond heb greu llawer o hyd. Bu rhaid i Pyatov fod yn effro i arbed cynnig Allen o bellter a pheniodd Sam Vokes hanner cyfle heibio’r postyn yn y munudau olaf.

Roedd cap cyntaf i Tom Bradshaw oddi ar y fainc a chafodd yntau hanner cyfle hefyd yn yr eiliadau olaf un, ond peniodd yn syth at Pyatov.

Perfformiad da gan Gymru ar y cyfan felly ond prinder bygythiad o flaen gôl heb Bale a Ramsey yn y tîm.

.

Wcráin

Tîm: Pyatov, Fedetskiy, Khacheridi, Kucher, Shevchuk, Stepanenko, Rotan (Sydorchuk 59’), Yarmolenko, Kovalenko, Garmash, Zozulya

Gôl: Yarmolenko 28’

Cardiau Melyn: Garmash 22’, Kharcheridi 38’, Fedetskiy 51’,

.

Cymru

Tîm: Hennessey, Chester, A. Williams (Richards 65’), Davies, Gunter, Taylor (Henley 72’), Allen, Huws (Ledley 79’), J. Williams (MacDonald 61’), Church (Vokes 61’), Lawrence (Bradshaw 72’)

Cerdyn Melyn: Richards 77’