Wrecsam 2–1 Cheltenham
Cipiodd gôl hwyr Wes York dri phwynt pwysig i Wrecsam wrth i Cheltenham ymweld â’r Cae Ras yn y Gynghrair Genedlaethol nos Lun.
Gôl yr un oedd hi ar hanner amser a bu rhaid aros tan y trydydd munud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm am y gôl fuddugol holl bwysig.
Aeth Wrecsam ar y blaen wedi chwarter awr o chwarae pan wyrodd Javan Vidal ergyd Simon Heslop i gefn y rhwyd.
Felly yr arhosodd hi tan bum munud cyn yr hanner pan unionodd James Dayton i’r ymwelwyr gyda chic rydd dda.
Roedd y chwiban olaf yn agosáu ar ddiwedd y gêm pan gipiodd York y pwyntiau i gyd i’r Dreigiau gyda gôl o groesiad Blaine Hudson.
Mae Cheltenham yn aros ar brig er gwaethaf y golled, ond mae’r canlyniad yn cadw gobeithion Wrecsam o gyrraedd y gemau ail gyfle yn fyw. Maent yn aros yn wythfed, ond tri phwynt yn unig sydd yn eu gwahanu hwy a Dover sydd yn bumed.
.
Wrecsam
Tîm: Taylor, Evans, Smith, Fyfield, Vidal (York 67’), Jennings, Newton, Heslop, Carrington, Jackson, Hudson
Goliau: Vidal 16’, York 90+3’
Cardiau Melyn: Newton 40’, Vidal 45’
.
Cheltenham
Tîm: Flatt, Dickie, Parslow, Storer, Cranston, Burgess, Dayton (Morgan-Smith 73’), Hall (Rowe 24’), Pell, Wright (Barthram 88’), Holman
Gôl: Dayton 41’
Cardiau Melyn: Dickie 28’, Rowe 56’, Cranston 81’, Pell 84’
.
Torf: 4,463