Casnewydd 0–2 Accrington Stanley
Sgoriodd Accrington Stanley ddwy gôl mewn dau funud wrth iddynt drechu Casnewydd ar Rodney Parade yn yr Ail Adran brynhawn Llun.
Daeth y gôl agoriadol ddeg munud cyn yr egwyl pan sgoriodd Billy Kee wedi i Joe Day wyro ergyd Matty Pearson yn syth i’w lwybr.
Dyblodd Josh Windass fantais yr ymwelwyr ddau funud yn unig yn ddiweddarach, yn sgorio o groesiad cywir Piero Mingoia.
Roedd hynny’n ddigon i Accrington Stanley yn y diwedd wrth i Gasnewydd golli am y drydedd gêm yn olynol. Nid yw hynny’n newid llawer yn y tabl, serch hynny o safbwynt Casnewydd, maent yn llithro un lle i’r deunawfed safle ond yn aros dri phwynt ar ddeg uwch ben safleoedd y gwymp.
.
Casnewydd
Tîm: Day, Jones, Donacien (Owen-Evans 45’), Davies (Meechan 74’), Holmes, Klukowski (Partridge 61’), Byrne, Rodman, Barrow, Boden, Gosling
.
Accrington Stanley
Tîm: Etheridge, Halliday, Hughes, Davies, Pearson, Brown, Conneely, Windass (Boco 71’), McConville (Fosu-Henry 73’), Mingoia, Kee
Goliau: Kee 35’, Windass 37’
Cerdyn Melyn: Davies
.
Torf: 2,218