Northampton 1–0 Casnewydd                                                      

Colli fu hanes Casnewydd wrth iddynt ymweld â Stadiwm Sixfields i herio Northampton brynhawn Gwener.

John Marquis a sgoriodd unig gôl y gêm i’r tîm cartref hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf, yn rhwydo wedi gwaith creu Lee Martin.

Bu bron Medy Elito unioni pethau i’r Cymry yn yr ail gyfnod ond tarodd ei gynnig y trawst.

Mae’r Alltudion yn aros yn ail ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran er gwaethaf y canlyniad, maent dri phwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp gydag wyth gêm yn weddill.

.

Northampton

Tîm: Smith, Maloney, diamond, Prosser, Buvhanan, Holmes, O’Toole, Byrom (Rose 77’), Martin (D’Ath 45’), Collins (Hoskins 63’), Marquis

Gôl: Marquis 22’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Donacien, Hughes (Barrow 53’), Davies, Byrne, Rodman, Elito, Gosling, Ayina (Klukowski 67’), Boden

Cerdyn Melyn: Byrne 19’

.

Torf: 5,630