Joe Ledley'n diddanu'r tîm â'i ddawnsio wrth i Gymru ddathlu cyrraedd yr Ewros (llun:CBDC)
Mae Joe Ledley wedi mynnu ei fod yn cytuno â phenderfyniad Chris Coleman i wahardd gwragedd a chariadon chwaraewyr Cymru o’u gwersyll yn Ewro 2016 – gan ddweud y bydd yn gyfle am ychydig o lonydd!

Cafodd y garfan wybod yr wythnos hon am rai o’r rheolau y bydd yn rhaid iddyn nhw ddilyn pan fyddan nhw allan yn Ffrainc ym mis Mehefin.

Un o’r rheiny yw gwaharddiad ar gael y ‘WAGs’ o gwmpas y lle – o leiaf nes ar ôl y gemau grŵp.

Ond mae Ledley yn hapus â gorchymyn ei reolwr os yw hynny’n golygu bod gwell siawns gan y chwaraewyr o berfformio ar y cae.

“Ydw, yn bendant – bach o lonydd!” meddai Ledley, sydd wedi galw ar Coleman i ymestyn ei gytundeb fel rheolwr.

“Rydyn ni yma ar gyfer cystadleuaeth ‘dyn ni wedi gwneud popeth i’w gyrraedd, a ‘da ni eisiau bod yn y cyflwr gorau posib ar ei gyfer.

“Os yw hynny’n golygu aberthu pum wythnos o’ch bywyd, does gen i ddim problem â hynny. Mae’n mynd i fod yn wych, dw i’n siŵr y bydd pawb yn deall, ac mae’n benderfyniad da gan y rheolwr.”

Cadw hwyliau’n uchel

Mae bron pob un o’r chwaraewyr sydd wedi cael eu cynnwys yn y garfan i wynebu Gogledd Iwerddon a’r Wcráin yr wythnos hon wedi bod gyda thîm Cymru ers blynyddoedd ac yn nabod ei gilydd yn dda.

Ac fe fydd hynny’n sicr o help er mwyn cadw hwyliau yn uchel yn Ffrainc wrth i’r bechgyn fod i ffwrdd o’u teuluoedd am gyfnod yn ôl Ledley, aelod mwyaf profiadol y garfan oni bai am Chris Gunter.

“Dw i wedi bod yma ers dros ddeng mlynedd nawr – ac nid jyst fi, ‘dyn ni wedi tyfu lan gyda’n gilydd, rydyn ni’n gwybod beth yw cryfderau ein gilydd,” meddai.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n un, fel tîm cryf, a dw i’n meddwl bod hynny’n bwysig, yn enwedig pan ‘dych chi ffwrdd gyda’ch gilydd am bump neu chwe wythnos [yn yr Ewros].

“Mae angen pobol fel ni i ddiddanu’n gilydd a chadw’r hwyl!”

Stori: Iolo Cheung