Mae Chris Coleman wrthi'n paratoi tîm Cymru ar gyfer Ewro 2016 yn yr haf (llun: Tsafrir Abayov/PA)
Mae dau o chwaraewyr mwyaf profiadol tîm Cymru wedi dweud bod y garfan i gyd eisiau i’w rheolwr nhw Chris Coleman aros yn y swydd ar ôl Ewro 2016.

Fe fydd Coleman yn arwain y tîm i Bencampwriaethau Ewrop yn Ffrainc ym mis Mehefin, ond hyd yn hyn dyw e heb ddod i gytundeb â Chymdeithas Bêl-droed Cymru i barhau yn y swydd ar gyfer yr ymgyrch nesaf.

Yr wythnos hon mae’r tîm yn paratoi ar gyfer dwy gêm gyfeillgar, y cyntaf yn erbyn Gogledd Iwerddon nos Iau a’r ail i ffwrdd yn yr Wcráin ddydd Llun y Pasg.

Ac ar ôl i’r rheolwr arwain pêl-droedwyr Cymru i’w twrnament rhyngwladol cyntaf ers 58 mlynedd, mae’r ymosodwr Sam Vokes a’r chwaraewr canol cae Joe Ledley wedi galw ar Coleman i aros er mwyn ceisio cyrraedd Cwpan y Byd yn 2018 hefyd.

Mwynhau gyda’r garfan

“Mae’r rheolwr wedi gwneud yn wych i ni, a dw i’n siŵr y bydd o yn y dyfodol hefyd – rydyn ni i gyd yn mwynhau gweithio gydag o,” meddai Vokes.

“Mae o wedi gwneud yn wych, a dw i’n siŵr y bydd o [yn parhau i’r ymgyrch nesaf].

“Gyda’r garfan sydd gennym ni a’r ffordd rydyn ni wedi bod yn chwarae’n ddiweddar fe allwn ni fynd â’r ymgyrch ragbrofol ddiwethaf i mewn i’r un nesaf.

“Gyda thwrnament da o dan ein belt fe fydd hynny’n ein helpu ni hefyd.”

Parhau â’r llwyddiant

Yn ôl Joe Ledley byddai cadw Coleman wrth y llyw yn golygu siawns well o sicrhau bod llwyddiant diweddar y tîm yn parhau.

“Does dim arwydd [ei fod yn ystyried symud], mae e’n canolbwyntio’n llwyr ar y gemau nesaf ac ar yr Ewros,” meddai Ledley.

“Dw i’n siŵr y bydd rhywbeth yn cael ei sortio’n hwyr neu’n hwyrach … ’dyn ni eisiau iddo fod yma am flynyddoedd eto.

“Mae beth mae e wedi ei wneud drosom ni a’r genedl yn wych, a gobeithio y gall hynny barhau am flynyddoedd i ddod, yn enwedig gyda’r bechgyn ifanc sy’n dod drwyddo.”