Carwyn Jones yn cyfarfod â charfan Cymru fore ddydd Mawrth
Cafodd tîm pêl-droed Cymru air o anogaeth gan y Prif Weinidog heddiw wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer eu gemau cyfeillgar diweddaraf cyn Ewro 2016.
Roedd Carwyn Jones ym Mro Morgannwg fore ddydd Mawrth i wylio’r garfan yn ymarfer cyn gemau cyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon ar 24 Mawrth a’r Wcráin ar 28 Mawrth.
Ar ôl sgwrsio â’r rheolwr Chris Coleman fe aeth ati i sgwrsio â’r chwaraewyr, er nad oedd Gareth Bale ac Aaron Ramsey yno i glywed gan eu bod nhw ymysg y rheiny sydd yn absennol ag anafiadau.
‘Edrych ymlaen at gêm Lloegr’
Wrth sgwrsio â golwg360 wedi hynny, roedd Carwyn Jones yn dawel hyderus o obeithion y tîm – ac ar gyfer un gornest grŵp yn benodol.
“R’yn ni gyd yn edrych ymlaen at fis Mehefin, yn enwedig y gêm yn erbyn Lloegr!” meddai’r Prif Weinidog.
“Dw i’n meddwl ei bod hi’n hollol bosib i ni ddod mas o’r grŵp, ac ar ôl hynny, pwy a ŵyr! Ond wrth gwrs does dim pwysau ar dîm Cymru achos d’yn ni ddim wedi bod fan hyn o’r blaen.
“Mae pobol yn obeithiol, mae tîm da gyda ni, ac yn fy marn i ni’n gallu cystadlu gyda’r gorau ar ein dydd.”