Tim pel-droed Cymru gyda James Dean Bradfield a Nicky Wire o Manic Street Preachers
Fe fydd y Manic Street Preachers yn rhyddhau cân swyddogol Cymru ar gyfer Ewro 2016 wrth i’r paratoadau fynd yn eu blaen ar gyfer y twrnament ym mis Mehefin.

Enw’r gân fydd ‘Together Stronger’, sef y slogan marchnata gafodd ei ddefnyddio yn ystod yr ymgyrch ragbrofol lwyddiannus wrth i’r tîm sicrhau eu lle yn Ffrainc.

Ac mae’n debyg bod rhai o’r garfan hefyd wedi bod yn rhoi help llaw i’r band wrth iddyn nhw recordio’r gân yn y stiwdio – fel y cafodd ei grybwyll gan golwg360 bythefnos yn ôl.

Fe fydd y chwaraewyr a’r rheolwr Chris Coleman yn rhan o’r fideo ar gyfer y gân, gyda’r arian fydd yn cael ei gwneud ohoni yn mynd i elusennau Princes Gate Trust a Tenovus Cancer Care.

‘Wedi mwynhau’

Mae sengl ‘Together Stronger’ yn cael ei rhyddhau wrth i’r Manic Street Preachers ddathlu 20 mlynedd ers eu halbwm eiconig ‘Everything Must Go’, sydd yn cael ei ail ryddhau eleni.

“Roedd hi’n wych bod yn rhan ohoni gyda band Cymreig mor eiconig,” meddai rheolwr Cymru Chris Coleman.

“Mae’r Manic Street Preachers wedi bod yn ddilynwyr brwd o bêl-droed Cymru ac mae’r bechgyn wir wedi mwynhau’r profiad o allu ymuno yn yr hwyl.”

Mae Coleman a’i garfan wrthi’n paratoi ar hyn o bryd ar gyfer gemau cyfeillgar yn erbyn Gogledd Iwerddon ar 24 Mawrth a’r Wcráin ar 28 Mawrth.

Bu Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones draw i weld y tîm yn ymarfer ym Mro Morgannwg fore ddydd Mawrth, wrth i’r tîm orfod gwneud heb Gareth Bale nac Aaron Ramsey ar gyfer y ddwy ornest.