Abertawe 1–0 Aston Villa                                                               

Mae Abertawe mwy neu lai yn ddiogel yn yr Uwch Gynghrair am dymor arall ar ôl trechu Aston Villa o gôl i ddim ar y Liberty nos Sadwrn.

Federico Fernandez a sgoriodd unig gôl y gêm yn gynnar yn yr ail hanner.

Villa a gafodd y gorau o hanner cyntaf di fflach ond di sgôr oedd hi wrth droi.

Daeth unig gôl y gêm saith munud wedi’r ail ddechrau, yr amddiffynnwr canol, Fernandez, i fyny o’r cefn i sgorio gôl flêr.

Cadwodd yntau a’i gyd amddiffynnwyr eu gafael ar lechen lân wedi hynny i sicrhau tri phwynt holl bwysig.

Mae’r canlyniad yn codi’r Elyrch dros Crystal Palace i’r pymthegfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair, un pwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Rangel, Williams, Fernandez, Kingsley (Routledge 86’), Cork, Ki Sung-yueng, Barrow (Naughton 78’), Fer, Sigurdsson, Gomis

Gôl: Fernandez 53’

Cardiau Melyn: Sigurdsson 59’, Routledge 87’, Britton 90’

.

Aston Villa

Tîm: Guzan, Hutton, Lescott, Clark, Cissokho, Westwood, Gueye, Gil (Agbonlahor 74’), Veretout (Green 61’), J. Ayew, Gestede

Cardiau Melyn: Cissokho 27’, Lescott 90’

.

Torf: 20,454