Y Rhyl 3–4 Bangor                                                                               

Bangor aeth â hi mewn gêm hynod gyffrous yn erbyn y Rhyl ar y Belle Vue nos Sadwrn.

Roedd y tîm cartref dair i un ar y blaen cyn i’r Dinasyddion daro nôl i ennill gyda thair gôl yn y deg munud olaf.

Hanner Cyntaf

Y Rhyl a gafodd y cyfle cyntaf wedi pum munud o chwarae ond er i John Owen godi’r bêl dros gôl-geidwad Bangor, Connor Roberts, heibio’r postyn aeth hi.

Daeth cyfle i Steve Lewis yn y pen arall yn fuan wedyn ond peniodd y bwystfil heibio’r postyn.

Rhwydodd Lewis wedi chwarter awr ond cafodd y gôl ei gwrthod gan ei fod yn camsefyll.

Ychydig llai na hanner awr oedd wedi mynd pan rwydodd Owen y gôl agoriadol, yn sgorio i gôl wag wedi i Roberts wyro ergyd Rob Hughes i’w lwybr.

Bu rhaid i Terry McCormisk wneud arbediad da o gic rydd Sam Hart i gadw’r Rhyl ar y blaen a bu bron i Danny Gossett ddyblu mantais y Claerwynion pan grymanodd ergyd yn erbyn y trawst ddau funud cyn yr egwyl.

Ail Hanner

Cafodd Bangor y dechrau perffaith i’r ail hanner, wrth i Hart sgorio o’r smotyn yn dilyn trosedd Liam Benson ar Lewis yn y cwrt cosbi.

Cafodd Lewis gyfle i roi’r Dinasyddion ar y blaen yn fuan wedyn ond llusgodd ei ergyd heibio’r postyn

Aeth y Rhyl ar y blaen gyda gôl wych Owen hanner ffordd trwy’r ail hanner. Derbyniodd y gŵr o Eifionydd y bêl gyda’i gefn at y gôl bum llath ar hugain allan, llwyddodd i droi Leon Clowes cyn taro ergyd droed chwith wych i’r gornel uchaf.

Dyblodd Hughes fantais y tîm cartref dri munud yn unig yn ddiweddarach, yn sgorio wedi peniad amddiffynnol gwael.

Rhoddwyd llygedyn o obaith i Fangor wyth munud o’r diwedd pan rwydodd Michael Elstone yn dilyn dyrniad gwael McCormick.

Roedd yr ymwelwyr yn gyfartal bum munud yn ddiweddarach pan rwydodd yr eilydd, Porya Ahmadi, yn dilyn un-dau gyda Lewis.

Yr un ddau chwaraewr a gyfunodd ar gyfer gôl fuddugol yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm, Lewis yn sgwario’r bêl ar draws y cwrt chwech ac Ahmadi yn rhwydo i gôl wag.

Cafwyd pum munud o oedi wedi hynny oherwydd nam ar y llif oleuadau ond daliodd Bangor eu gafael ar y tri phwynt wedi i rheiny ail danio.

Mae’r canlyniad yn cadw Bangor yn seithfed a’r Rhyl yn unfed ar ddeg yn nhabl yr Uwch Gynghrair.

.

Y Rhyl

Tîm: McCormick, Benson, Fitzpatrick, Dysart, Stones, Walsh, Mackin, Hughes (Touray 81’), Gosset (Corbett 90’), Bell, Owen

Goliau: Owen 27’, 68’, Hughes 71’

Cardiau Melyn: Dysart 6’, Benson 35’, McCormick 51’

.

Bangor

Tîm: Roberts, Cummings, Miley, Clowes, Hart, Allen, Young, Elstone, Cavanagh (Ahmadi 69’), Edwards (Langos 75’), Lewis

Goliau: Hart [c.o.s.] 50’, Elstone 82’, Ahmadi 87’, 90’

Cardiau Melyn: Young 65’, Allen 90’