Reading 1–1 Caerdydd                                                                     

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Gaerdydd deithio i’r Madejski i wynebu Reading yn y Bencampwriaeth brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Garath McCleary y tîm cartref ar y blaen yn yr hanner cyntaf cyn i Lex Immers achub pwynt i’r ymwelwyr o dde Cymru yn yr ail hanner.

Roedd newyddion drwg i gefnogwyr Cymru hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan y bu rhaid i Hal Robson-Kanu adael y cae gydag anaf, lai nag wythnos cyn y gêm yn erbyn Gogledd Iwerddon.

Garath McCleary a ddaeth i’r cae yn lle ymosodwr Cymru a fo a roddodd Reading ar y blaen toc cyn yr egwyl, yn rheoli’n grefftus yn y cwrt cosbi cyn ergydio i gefn y rhwyd.

Cafodd Ola John gyfle da i ddyblu mantais y tîm cartref cyn hanner amser ond un gôl oedd ynddi wrth droi.

Roedd yr Adar Gleision yn edrych yn well yn yr ail hanner, yn enwedig wedi i Sammy Ameobi ddod i’r cae fel eilydd.

Yn wir, yr asgellwr a greodd gôl Caerdydd toc wedi’r awr, yn croesi i Lex Immers yn y canol a’r blaenwr yn penio i gefn y rhwyd.

Cafodd y ddau dîm gyfleoedd i’w hennill hi yn y chwarter olaf ond bu rhaid iddynt fodloni ar bwynt yr un yn y diwedd.

Mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn seithfed yn nhabl y Bencampwriaeth ond maent yn colli tir ar Sheffield Wednesday sydd yn chweched wedi iddynt ennill gartref yn erbyn Charlton.

.

Reading

Tîm: Al Habsi, Gunterm McShanem Cooper, Taylor, Williams, Hector, Robson-Kanu (McCleary 22’), Quinn (Cox 79’), John, Kermorgant (Vydra 62’)

Gôl: McCleary 37’

Cerdyn Melyn: John 45’

.

Caerdydd

Tîm: Moore, Peltier, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Noone (Ameobi 65’), O’Keefe (Gunnarsson 65’), Ralls, Lawrence, Immers, Pilkington

Gôl: Immers 65’

Cardiau Melyn: Connolly 63’, Pilkington 83’

.

Torf: 17,407