Wrecsam 3–0 Caer                                                                             

Wrecsam aeth â hi wrth i Gaer ymweld â’r Cae Ras am gêm ddarbi yn y Gynghrair Genedlaethol brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd y Dreigiau dair gôl mewn ugain munud yn yr ail hanner wrth ennill yn gyfforddus yn erbyn deg dyn y Saeson.

Connor Jennings a gafodd gyfle gorau Wrecsam mewn hanner cyntaf di sgôr, yn taro’r trawst gyda chynnig da.

Cafodd Jennigs gyfle arall i agor y sgorio toc wedi’r awr wedi i gyn chwaraewr y Rhyl, Ryan Astles, lorio Kayden Jackson yn y cwrt cosbi. Rhwydodd Jennings o’r smotyn ac roedd y Dreigiau ar y blaen yn erbyn deg dyn gan i Astles gael ei anfon o’r cae.

Dyblodd Jackson y fantais tua chwarter awr o’r diwedd cyn i Robbie Evans sicrhau’r tri phwynt gyda thrydedd y tîm cartref.

Cododd y canlyniad Wrecsam i’r chweched safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol am gwta awr, cyn i dîm lleol arall, Tranmere Rovers, godi drostynt gyda phwynt mewn gêm hwyrach yn erbyn Forest Green.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Smith, Hudson, Heslop, Carrington, Fyfield, Fowler (York 81’), Evans, Newton, Jackson Gray 86’), Jennings

Goliau: Jennings [c.o.s.] 64’, Jackson 77’, Evans 84’

.

Caer

Tîm: Thompson, Lloyd, Higgins, Astles, O’Brien (Rooney 83’), Alabi, Chapell (Mahon 15’ (Shaw 69’)), Hughes, Hunt, Hannah, Heneghan

Cerdyn Melyn: Hunt 55’

Cerdyn Coch: Astles 63’

.

Torf: 6,459