Casnewydd 4–1 Bristol Rovers                                                      

Roedd Bristol Rovers rhy dda i Gasnewydd wrth iddynt ymweld â Rodney Parade i herio’r Cymry yn yr Ail Adran brynhawn Sadwrn.

Er i’r tîm cartref fynd ar y blaen gyda gôl gynnar Alex Rodman fe darodd yr ymwelwyr yn ôl i ennill yn gyfforddus o bedair i un.

Dau funud yn unig a oedd ar y cloc pan roddodd Rodman Gasnewydd ar y blaen. Roedd Bristol Rovers yn gyfartal serch hynny wedi chwarter awr diolch i ergyd dda Ollie Clarke o bellter.

Felly yr arhosodd hi tan yr egwyl ond aeth y Saeson ar y blaen ddeg munud wedi troi, Cristian Montano yn sgorio gyda chynnig arall o du allan i’r cwrt cosbi.

Aeth yr ymwelwyr ym mhellach ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner, Matty Taylor yn rhwydo wedi gwaith creu Oliver McBurnie, chwaraewr a dreuliodd gyfnod byr ar fenthyg gyda Chasnewydd o Abertawe yn gynharach y tymor hwn.

Gŵr o Gasnewydd a sgoriodd bumed gôl y gêm bum munud o’r diwedd, ond yn anffodus i’r cefnogwyr cartref, crys Bristol Rovers oedd gan Ellis Harrison amdano, 1-4 y sgôr terfynol.

Mae Casnewydd yn aros yn ail ar bymtheg yn nhabl yr Ail Adran ond gall hyd at dri thîm godi drostynt wedi’r gemau tri o’r gloch.

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes (O’Sullivan 65’), Jones (Davies 89’), Donacien, Hughes, Rodman, Byrne, Elito, Ayina, Wilkinson (Klukowski 76’), Boden

Gôl: Rodman 2’

Cardiau Melyn: Byrne 73’, Jones 87’

.

Bristol Rovers

Tîm: Mildenhall, Brown, Lockyer, McChrystal, J. Clarke, O. Clarke, Lines, Bodin, Taylor (Harrison 75’), Montano Castillo (Broom 85’), Gaffney (McBurnie 58′)

Goliau: O’Clarke 15’, Montano Castillo 55’, Taylor 61’, Harrison 85’

Cerdyn Melyn: Harrison 87’

.

Torf: 3,663