Ryan Giggs
Mae cyn-seren Cymru Ryan Giggs wedi dweud ei fod yn hyderus y gall tîm Chris Coleman – yn ogystal â Lloegr – ddianc o’u grŵp yn Ewro 2016.
Fe fydd Cymru’n wynebu’r hen elyn yn eu hail gêm o’r twrnament yn Lens ar 16 Mehefin, gyda disgwyl i ddegau o filoedd groesi’r Sianel ar gyfer yr ornest.
Ond fe fyddai’r crysau cochion mwy neu lai drwyddo i’r rownd nesaf os ydyn nhw eisoes wedi trechu Slofacia yn eu gêm agoriadol, yn ôl Giggs, gan olygu y byddai’r pwysau oddi ar eu hysgwyddau wrth herio’r Saeson.
Fydd neb chwaith eisiau herio tîm sydd ag un o chwaraewyr gorau’r byd, meddai.
“Mae Cymru’n chwarae fel tîm go iawn ac wrth gwrs, mae gyda nhw’r bonws o Gareth Bale,” meddai Giggs, a orffennodd ei yrfa gyda Chymru fel yr oedd Bale yn dechrau ei un yntau, wrth Radio Wales.
“Unwaith fyddan nhw allan o’r grŵp, dw i ddim yn meddwl y bydd unrhyw un eisiau wynebu tîm sy’n cynnwys Gareth Bale.”
‘Lloegr yn ffefrynnau’
Bydd Cymru’n paratoi ar gyfer yr Ewro 2016 gyda dwy gêm gyfeillgar ar ddiwedd y mis yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin, cyn herio Sweden oddi cartref ym mis Mehefin wythnos cyn i’r twrnament ddechrau.
Fe gyfaddefodd is-reolwr Manchester United, a enillodd 64 cap dros Gymru, mai Lloegr fyddai’r ffefrynnau yn eu grŵp yn yr Ewros sydd hefyd yn cynnwys Rwsia.
Ond gyda hyd at dri thîm yn dod allan o’r grŵp, a’r ysbryd gwych yng ngharfan Cymru ar hyn o bryd, doedd cyn-chwaraewr Cymru ddim yn gweld pam na allai’r tîm fynd yn bell.
“Os yw Lloegr a Chymru’n ennill eu gemau grŵp cyntaf, dw i’n meddwl y bydd modd i’r ddau dîm ymlacio pan fyddan nhw’n chwarae’i gilydd,” meddai Giggs.
“Os fyddan nhw’n ennill eu gêm gyntaf, fe fyddan nhw mwy neu lai drwyddo. Ond os wnawn nhw golli neu fethu â chael canlyniad da, fe fydd y pwysau ‘mlaen.”