Tom O'Sullivan a Wes Burns yn dathlu gôl yn gynharach yn yr ymgyrch (llun: CBDC)
Mae rheolwr pêl-droed dan-21 Cymru Geraint Williams wedi enwi’i garfan wrth i’r tîm baratoi i herio Bwlgaria a Rwmania oddi cartref yn eu gemau rhagbrofol nesaf.

Ar hyn o bryd mae Cymru ar frig eu grŵp, gyda thair buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal hyd yn hyn, wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Pencampwriaethau dan-21 Ewro 2017.

Ond gyda Denmarc dim ond pwynt y tu ôl iddyn nhw, ac wedi chwarae gêm yn llai, mae’r pwysau ar y garfan i geisio sicrhau pwyntiau yn eu dwy gêm nesaf.

Mae prif sgoriwr Cymru yn yr ymgyrch hyd yn hyn, Wes Burns, wedi cael ei gynnwys yn ogystal â selogion eraill megis Harry Wilson, Tom O’Sullivan, Josh Yorwerth, Ellis Harrison a Declan John.

Symud posib

Dyw chwaraewyr talentog o’r oedrannau ieuengach, megis Regan Poole a Tyler Roberts, heb gael eu cynnwys fodd bynnag wrth i Geraint Williams lynu gyda’r mwyafrif o’r tîm sydd wedi chwarae hyd yn hyn yn yr ymgyrch.

Bydd Cymru’n herio Bwlgaria ar 25 Mawrth cyn croesi’r ffin i Rwmania ar gyfer yr ail ornest ar 29 Mawrth.

Ond fe fydd Chris Coleman hefyd yn enwi’i garfan yntau ddydd Gwener ar gyfer gemau’r tîm cyntaf yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin ar 24 a 28 Mawrth, gan olygu y gallai chwaraewyr gael eu symud o gwmpas y gwahanol dimau.

Carfan dan-21 Cymru

Billy O’Brien (Manchester City), Michael Crowe (Ipswich)

Declan John (Caerdydd – ar fenthyg yn Chesterfield), Gethin Jones (Everton), Jordan Evans (Fulham – ar fenthyg yn Oxford United), Dominic Smith (Amwythig), Tom Lockyer (Bristol Rovers), Liam Shepard (Abertawe), Josh Yorwerth (Ipswich – ar fenthyg yn Crawley)

Josh Sheehan (Abertawe), Lee Evans (Wolves – ar fenthyg yn Bradford City), Ryan Hedges (Abertawe – ar fenthyg yn Stevenage), Louis Thompson (Norwich – ar fenthyg yn Swindon), Tom O’Sullivan (Caerdydd, ar fenthyg yn Casnewydd)

Wes Burns (Bristol City – ar fenthyg yn Fleetwood), Ellis Harrison (Bristol Rovers), Harry Wilson (Lerpwl), Jake Charles (Huddersfield)