Mae Sam Vokes bellach wedi sgorio naw gôl yn ei 13 gêm ddiwethaf (llun: John Walton/PA)
Gyda Chris Coleman yn paratoi i enwi ei garfan ddydd Gwener ar gyfer y gemau cyfeillgar ar ddiwedd y mis yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin, roedd sawl un o’r Cymry yn awyddus i greu argraff a phrofi eu ffitrwydd.
Fe chwaraeodd Gareth Bale 79 munud i Real Madrid cyn cael ei eilyddio wrth iddyn nhw drechu Las Palmas o 2-1, canlyniad sy’n annhebygol o wneud gwahaniaeth yn y ras ar frig La Liga gan fod Barcelona eisoes 12 pwynt o’u blaenau nhw.
Bydd Wayne Hennessey a Joe Ledley yn chwarae yn Wembley fis nesaf ar ôl i Crystal Palace drechu Reading, oedd â Chris Gunter a Hal Robson-Kanu yn y tîm, o 2-0 yn rownd gogynderfynol Cwpan FA Lloegr.
Mae West Ham dal yn y gwpan hefyd ar ôl cael gêm gyfartal â Man United, er na chwaraeodd James Collins wrth iddo barhau i wella o anaf i linyn y gâr.
Ond ar ôl anafu’i hun ganol wythnos wrth i Arsenal drechu Hull ym mhumed rownd y gwpan, fe fydd Aaron Ramsey hyd yn oed yn fwy rhwystredig ar ôl gweld ei dîm yn colli 2-1 gartref i Watford ddydd Sadwrn i fynd allan o’r gystadleuaeth beth bynnag.
Nôl yn Uwch Gynghrair Lloegr prin oedd y gemau dros y penwythnos oherwydd Cwpan yr FA.
Ond fe gaeodd Spurs y bwlch ar Gaerlŷr, sy’n chwarae heno, dros dro i ddau bwynt gyda buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Aston Villa, â Ben Davies yn gwylio o’r fainc.
A cholli oedd hanes Abertawe, gydag Ashley Williams a Neil Taylor yn y tîm, o 3-2 yn erbyn Bournemouth yn y frwydr tua’r gwaelodion.
Y Bencampwriaeth
Yn y Bencampwriaeth fe sgoriodd Sam Vokes ei nawfed gôl mewn 13 gêm wrth i Burnley drechu Huddersfield o 3-1 i ymestyn eu mantais ar frig y tabl.
Fe chwaraeodd Emyr Huws gêm lawn i’r tîm cartref am y tro cyntaf ers dychwelyd o anaf, ond dim ond lle ar y fainc oedd i’r amddiffynnwr Joel Lynch.
Yng ngemau eraill y gynghrair fe gafodd David Cotterill, Morgan Fox a David Vaughan gemau llawn i’w clybiau, ac fe ddaeth Jonny Williams ymlaen fel eilydd i MK Dons mewn ymddangosiad hwyr.
Ond lle ymysg yr eilyddion yn unig oedd i Tom Lawrence, Jazz Richards a Lewis Price, tra bod Adam Henley a Joe Walsh ymysg y rheiny oedd ddim yng ngharfan eu clybiau o gwbl.
Yn Uwch Gynghrair yr Alban fe gadwodd Aberdeen bwysau ar Celtic ar y brig gyda buddugoliaeth o 2-1 dros Kilmarnock, a Chymro’n sgorio iddyn nhw unwaith eto – na, nid Simon Church y tro hwn, ond Ash Taylor.
Ond colli oedd hanes Owain Fôn Williams ac Inverness o 1-0 yn erbyn Hamilton, canlyniad sydd yn eu gadael yn anghyfforddus o agos o hyd i safleoedd y cwymp.
Yng Nghynghrair Un fe enillodd Tom Bradshaw a Walsall o 4-1 yn erbyn Chesterfield, ddaeth â Declan John ymlaen fel eilydd, ac fe chwaraeodd George Williams 90 munud i Gillingham wrth iddyn nhw ennill 3-0.
Seren yr wythnos – Sam Vokes. Rhediad gwych o goliau ganddo’n ddiweddar wedi codi Burnley i’r brig.
Siom yr wythnos – Aaron Ramsey. Anaf arall, a’r cwestiynau’n codi unwaith eto am y ffordd mae Arsenal yn edrych ar ôl ffitrwydd eu chwaraewyr.