Wrecsam 1–0 Boreham Wood                                                      

Roedd cic o’r smotyn gynnar Connor Jennings yn ddigon i Wrecsam guro Boreham Wood ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn.

Deuddeg munud oedd wedi mynd pan gafodd Kayden Jackson ei lorio yn y cwrt cosbi gan Scott Doe. Jennings a gymerodd y gic gan rwydo o ddeuddeg llath.

Cafodd Jackson gyfle da i ddyblu mantais y Dreigiau ond anelodd at y rhwyd ochr ar ôl mynd heibio’r gôl-geidwad.

Mae’r canlyniad yn codi Wrecsam i’r chweched safle yn nhabl y Gynghrair Genedlaethol gyda naw gêm ar ôl.

.

Wrecsam

Tîm: Taylor, Carrington, Smith, Heslop, Newton, Hudson, Evans (Beck 82’), Moke (York 64’), Fowler (Fyfield 65’), Jackson, Jennings

Gôl: Jennings [c.o.s.] 13’

Cerdyn Melyn: Evans 21’

.

Boreham Wood

Tîm: Russell, Devera, Doe (Nunn 46’), C. Clifford, Woodards, Stephens, Shakes, Sam-Yorke (Lucas 70’), Haynes (B. Clifford 60’), Howell, Kamdjo

Cerdyn Melyn: Haynes 60’

.

Torf: 3,470