Portsmouth 0–3 Casnewydd                                                          

Symudodd Casnewydd ym mhellach o safleoedd disgyn yr Ail Adran gyda buddugoliaeth dda oddi cartref yn erbyn Portsmouth yn Fratton Park brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd yr Alltudion dair gôl wrth drechu deg dyn Pompey, tîm a ddechreuodd y dydd yn bumed yn nhabl yr Ail Adran.

Peniodd Darren Jones yr ymwelwyr ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl ac felly yr arhosodd hi tan hanner amser.

Derbyniodd cyn chwaraewr y Rhyl a Bangor, Gary Roberts, ei ail gerdyn melyn toc cyn yr awr ac roedd Pompey i lawr i ddeg dyn.

Cymerodd Casnewydd fantais llawn gan rwydo dwy arall yn y chwarter olaf. Dyblodd Scott Boden y fantais i ddechrau cyn i’r eilydd, Dean Morgan, gwblhau’r sgorio gyda’r drydedd dri munud o ddiwedd y naw deg.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi cyfanswm pwyntiau Casnewydd i ddeugain ac mae’r Alltudion fwy neu lai yn ddiogel bellach, dri phwynt ar ddeg yn glir o safleoedd y gwymp yn y deunawfed safle yn nhabl yr Ail Adran.

.

Portsmouth

Tîm: Fulton, Davies, Webster, Burgess, Stevens, Hollands, Doyle, Evans (Smith 45’), Roberts, Bennett (Naismith 61’), McNulty (Chaplin 70’)

Cardiau Melyn: Stevens 24’, Hollands 34’, Burgess 40’, Roberts 53’, 59’

Cerdyn Coch: Roberts 59’

.

Casnewydd

Tîm: Day, Holmes, Jones, Donacien, Hughes, Rodman, Byrne, O’Sullivan, Elito (Gosling 74’), Boden (Morgan 77’), Ayina (Wilkinson 60’)

Goliau: Jones 34’, Boden 69’, Morgan 87’

Cardiau Melyn: Byrne 21’, O’Sullivan 82’

.

Torf: 16,245