Caerdydd 1–0 Ipswich                                                                      

Roedd gôl gynnar Bruno Ecuele Manga yn ddigon i Gaerdydd drechu Ipswich yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd yr amddiffynnwr canol wedi deunaw munud ac felly yr arhosodd hi tan y diwedd wrth i’r Adar Gleision aros o fewn cyrraedd safleoedd ail gyfle’r Bencampwriaeth.

Wedi dechrau cyfartal i’r gêm, peniodd Ecuele Manga Gaerdydd ar y blaen o gic gornel Peter Wittingham.

Ildiodd yr Adar Gleision dipyn o’r meddiant i Ipswich, yn enwedig wedi’r egwyl ond prin iawn oedd cyfleodd clir o flaen gôl i’r ymwelwyr.

Gallai Caerdydd ar y llaw arall fod wedi dyblu’r fantais gyda pheniad Anthony Pilkington ond llwyddodd Bartosz Bialkowski i arbed y cynnig.

Roedd un gôl yn ddigon i sicrhau’r tri phwynt pryn bynnag ac mae’r canlyniad yn cadw Caerdydd yn seithfed yn nhabl y Bencampwriaeth, bwynt yn unig y tu ôl i Sheffield Wednesday sydd yn chweched.

.

Caerdydd

Tîm: Moore, Peltier, Ecuele Manga, Connolly, Malone, Noone, O’Keefe, Ralls, Whittingham (Gunnarsson 73’), Pilkington (Dikgacoi 83’), Immers

Gôl: Ecuele Manga 18’

.

Ipswich

Tîm: Bialkowski, Chambers, Smith (Maitland-Niles 88’), Berra, Knudsen, Bru (Pitman 45’), Skuse, Hyam, Pringle (Varney 72’), Sears, Murphy

.

Torf: 15,175