Bournemouth 3–2 Abertawe
Colli fu hanes Abertawe wrth iddynt ymweld â Dean Court i wynebu Bournemouth yn y frwydr tua gwaelodion yr Uwch Gynghrair brynhawn Sadwrn.
Aeth y tîm cartref ar y blaen deirgwaith, ac er i’r Elyrch daro nôl ar y ddau achlysur cyntaf doedd dim ffordd yn ôl wedi i Steve Cook rwydo’r drydedd.
Rhoddodd Max Gradel Bournemouth ar y blaen wyth munud cyn yr egwyl wedi i Lukasz Fabianski wyro’r bêl i’w lwybr.
Dau funud yn unig yr arhosodd hi felly cyn i Modou Barrow grymanu ergyd gywir i gefn y rhwyd i unioni’r sgôr wrth droi.
Roedd y tîm cartref yn ôl ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner, Joshua King yn taro ergyd gadarn heibio i Fabianski wedi pum munud.
Roedd y Cymry’n gyfartal am yr eildro toc wedi’r awr diolch i ergyd lân Gylfi Sigurdsson, ond roedd amser ar ôl am un gôl arall.
Daeth honno ddeuddeg munud o’r diwedd wrth i Cook ei hennill hi i Bournemouth gyda pheniad o groesiad Matt Ritchie.
Mae’r canlyniad yn codi Bournemouth bum pwynt yn glir o’r Elyrch ond mae Abertawe yn aros wyth pwynt yn glir o safleoedd y gwymp, yn yr unfed safle ar bymtheg.
.
Bournemouth
Tîm: Boruc, Smith, Francis, Cook, Daniels, Ritchie, Gosling (O’Kane 45’), Surman, Gradel (Pugh 76’), King, Afobe (Grabban 65’)
Goliau: Gradel 37’, King 50’, Cook 78’
Cerdyn Melyn: Gosling 34’
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Rangel, Fernandez, Williams, Taylor, Cork, Fer (Ki Sung-yueng 84’), Barrow (Emnes 80’), Sigurdsson, Routledge (Gomis 60’), Paloschi
Goliau: Barrow 39’, Sigurdsson 62’
.
Torf: 11,179