Bu Adam Matthews yn chwarae yng Nghynghrair y Pencampwyr yn ystod ei gyfnod â Celtic
Mae cefnwr dde Cymru Adam Matthews wedi symud ar fenthyg o Sunderland i Bristol City am weddill y tymor.
Doedd yr amddiffynnwr heb fod yn chwarae’n rheolaidd i Sunderland ers symud yno o Celtic am £2m llynedd.
Ond fe fydd cyn-chwaraewr Caerdydd nawr yn cael y cyfle i brofi ei hun yn y Bencampwriaeth, a hynny bedwar mis cyn Ewro 2016.
Mae gan Matthews 12 cap dros Gymru, ond ar hyn o bryd mae cefnwyr dde eraill fel Chris Gunter, Jazz Richards ac Adam Henley o’i flaen ym meddyliau’r rheolwr Chris Coleman.
‘Nôl yn chwarae’
Dim ond dwywaith y chwaraeodd Matthews dros Sunderland ar ôl cael dau anaf i’w ffêr, a dyw’r cefnwr 24 oed ddim yn meddwl am ei obeithion o fynd i Ffrainc eto.
“Byddai hynny’n grêt, ond dyw e ddim ar flaen fy meddwl i ar hyn o bryd, dw i jyst eisiau bod nôl yn chwarae pêl-droed,” meddai Matthews wrth wefan Bristol City.
“Os dw i’n dechrau chwarae, a chwarae yn dda, fe wnaiff e droi pennau yng ngharfan Cymru ac fe ga’i le yn y garfan.
“Ond dw i jyst wedi dod yma i chwarae pêl-droed, ac os fyddai’n gallu mynd i’r Ewros wedyn grêt.”