Fe fydd llyfr newydd Jamie Thomas yn cael ei chyhoeddi erbyn canol mis Mawrth (llun: Y Lolfa)
Does gan Gymru ddim i’w ofni yn Ewro 2016 ac fe allai tîm Chris Coleman “wneud pethau anhygoel” yn y twrnament eleni, yn ôl awdur llyfr newydd am siwrne’r tîm.

Er ei fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor o hyd mae Jamie Thomas o Gaergybi yn paratoi i gyhoeddi ei lyfr cyntaf, The Dragon Roars Again, gyda gwasg Y Lolfa.

Mae pymtheg mlynedd o ddilyn tîm pêl-droed Cymru, yn ogystal â gohebu yn ystod yr ymgyrch ddiwethaf i Golwg a golwg360 ymysg eraill, yn golygu’i fod â’i fys ar y pỳls pan mae’n dod at orchestion y  garfan.

A chyda cyfraniadau gan reolwr y tîm Chris Coleman, yr is-reolwr Osian Roberts a sawl un o’r chwaraewyr, gobaith yr awdur yw ei fod wedi llwyddo i adrodd stori’r daith i Ffrainc yn ei chyfanrwydd.

Magu hyder

Heb lawer o brofiad yn y byd cyhoeddi, ac wrth geisio cyfuno’r cyfweldiadau ac ysgrifennu â’i waith coleg, roedd rhoi’r llyfr at ei gilydd yn dipyn o her i’r Cymro Cymraeg.

Ond ar ôl cyfweld â chyn-lywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru Trefor Lloyd Hughes, yn ogystal â Chris Coleman ac Osian Roberts o’r tîm hyfforddi, fe ddechreuodd y drysau agor iddo.

“Roedd o’n mynd yn haws wedyn, achos bod chi’n adeiladu portffolio o bwy ‘da chi ‘di siarad efo,” esboniodd Jamie Thomas wrth golwg360.

“Ar ôl hynny nes i siarad efo [golwr Cymru] Wayne Hennessey – wrth i fi gysylltu â Crystal Palace, er ei fod o’n ail ddewis ar y pryd, roedd hi dal yn anodd cael cyfle efo fo.

“Ond ar ôl i mi ddweud mod i wedi siarad efo Osian Roberts a Chris Coleman, a gofyn allen ni wneud rhywbeth, bron iawn yn syth fe wnaeth yr agwedd newid ac fe ddywedon nhw ‘ie, fine!’”

‘Darlun llawn’

Erbyn y diwedd roedd wedi cyfweld â rhyw 80 o bobol ar gyfer y llyfr, o chwaraewyr presennol a chyn-chwaraewyr i hyfforddwyr, newyddiadurwyr eraill a chefnogwyr.

Yn ogystal ag edrych ar yr ymgyrch lwyddiannus i gyrraedd Ffrainc fodd bynnag, mae’r awdur yn mynd nôl ychydig ymhellach i gyfnodau Gary Speed, John Toshack a Mark Hughes fel rheolwyr er mwyn ceisio cael y darlun llawn.

Mae disgwyl i’r llyfr fod yn y siopau erbyn canol mis Mawrth – mae eisoes ymysg y llyfrau pêl-droed newydd sy’n gwerthu orau ar Amazon – ac mae hynny wedi rhoi hwb ychwanegol i hyder yr awdur ifanc.

“Mae ‘na lwyth o safbwyntiau gwahanol yn y llyfr gan enwau reit fawr o ran pêl-droed Cymru, a gobeithio efo’r cymysgedd yna mae’n dweud y stori’n reit ddiddorol i bobol,” meddai Jamie Thomas.

‘Pam ddim Cymru?’

Mae’n amlwg hefyd bod Jamie Thomas yn un o’r genhedlaeth newydd sydd yn optimistaidd o obeithion Cymru, yn wahanol i sawl cefnogwr hŷn sydd wedi’u creithio gan siomedigaethau’r gorffennol.

Ond fel un sydd wedi gohebu’n agos ar y tîm dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’n ffyddiog bod sail i’r gobeithion y gall y tîm wneud yn dda yn Ewro 2016.

“Dw i’n reit hyderus – os ydyn nhw’n curo’r gêm gyntaf yn erbyn Slofacia, pam allan nhw ddim curo’r grŵp?” gofynnodd.

“Mae gêm Lloegr yn mynd i fod yn anodd wrth gwrs, ond mi fydd mwy o bwysau arnyn nhw na ni.

“Os ydyn nhw’n cael allan o’r grŵp, all unrhyw un wneud unrhyw beth wedyn – mi wnaeth Groeg guro fo yn 2004 a doedd neb yn disgwyl iddyn nhw wneud, felly pam ddylai Cymru ddim tro ‘ma?

“Dw i ddim yn dweud y byddan nhw’n curo fo, ond dw i’n reit hyderus fyddan nhw’n gallu gwneud pethau anhygoel yn y twrnament os ydyn nhw’n cael dechrau cryf.”

Cyfweliad: Iolo Cheung