Arsenal 1–2 Abertawe                                                                      

Rhoddwyd hwb enfawr i obeithion Abertawe o aros yn yr Uwch Gynghrair wrth iddynt drechu Arsenal yn yr Emirates nos Fercher.

Cipiodd y capten, Ashley Williams, dri phwynt holl bwysig i’r Cymry gyda gôl chwarter awr o’r diwedd yn erbyn tîm sydd yn brwydro am y teitl ym mhen arall y tabl.

Er bod y rheolwr, Francesco Guidolin, yn absennol gyda salwch fe wnaeth rheolwr Abertawe chwe newid i’r tîm a gollodd yng ngogledd Llundain yn erbyn Tottenham dridiau yn ôl. Roedd hynny’n ymddangos yn benderfyniad gwael wrth iddynt fynd gôl gynnar ar ei hôl hi, ond yn ôl y daeth yr Elyrch gan gipio’r fuddugoliaeth yn y diwedd.

Roedd Alexis Sanchez eisoes wedi taro’r postyn cyn iddo greu’r gôl agoriadol i Joel Campbell, y tîm cartref ar y blaen wedi chwarter awr.

Roedd yr Elyrch yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny diolch i Wayne Routledge, yr asgellwr yn sgorio o ochr y cwrt cosbi yn dilyn gwaith creu Jack Cork.

Tarodd Olivier Giroud a Sanchez y gwaith coed i Arsenal eto yn yr ail hanner ond yr ymwelwyr o Gymru aeth â hi yn y diwedd wrth i Williams fanteisio ar gamgymeriad Petr Cech yn y gôl i rwydo yn dilyn cic rydd o’r asgell dde.

Mae Abertawe yn aros yn unfed ar bymtheg yn nhabl yr Uwch Gynghrair er gwaethaf y canlyniad, ond maent bellach chwe phwynt yn glir o safleoedd y gwymp gyda deg gêm ar ôl.

.

Arsenal

Tîm: Cech, Bellerin, Mertesacker, Gabriel, Monreal, Ramsey, Coquelin, Campbell (Welbeck 64’), Ozil, Sanchez (Walcott 75’), Giroud

Gôl: Campbell 15’

.

Abertawe

Tîm: Fabianski, Naughton, Amat, Williams, Kingsley, Fer (Fulton 71’), Cork, Ayew, Ki Sung-yueng (Sigurdsson 45’), Routledge, Gomis

Goliau: Routledge 32’, Williams 74’

Cardiau Melyn: Ayew 40’, Routledge 77’

.

Torf: 59,905